ac â'i law yn dattod y cwlwm ac yn tynu y cortyn oddi am wddf rhyw hen bechadur sydd yn sefyll ar y drop, ac y mae hwnw yn neidio i fyny yn nghanol y dorf, ac yn gwaeddi allan, "Y fagl a dorwyd, a minnau a ddiengais!" Y mae yr holl dyrfa fawr fel pe byddai yn gwyro dan ei weinidogaeth—fel y goedwig dderw yn plygu dan y rhyferthwy hyd y llawr! Dyma yr olygfa yn newid eto, ac yr ydym wedi cyrhaedd yr orsaf ddiweddaf yn awr. Y mae ei wedd yn sirioli, a gobaith yn dychwel ar wedd y dorf. Y mae yn cymmysgu ei gymhwysiad o'r athrawiaeth at y bobl â gweddïau taerion drostynt, gydag effeithioldeb digon i hollti calonau o adamant! Y mae fel pe byddai yn cael ei gipio i'r drydedd nef, ac yn son am yr orphwysfa sydd eto yn ol i bobl Dduw fel un a fyddai wedi bod yno ei hun yn eistedd ar y fainc, a chario teimladau gogoniant yn ol i'r ddaiar, a'u cyflwyno i fynwesau ei wrandawyr bob un. Dyma ddydd y Pentecost mewn gwirionedd yn Nghymru! Crëwyd teimladau yn yr oedfa hon a hir gofir yn Môn, ac ni bydd tragwyddoldeb ei hun yn ddigon o hyd i'w golchi ymaith.
Wedi adrodd hyn o adgofion, nid oes eisieu gwneyd nemawr o sylwadau. Ond y mae yn naturiol i ni ofyn, A oedd dim a allesid ei ddysgu a barai y gwahanol olygfeydd a welsom, a'r holl orsafoedd yr arweiniwyd ni drwyddynt? Y mae yn ddiau fod celfyddyd yma; ond yr oedd dan yr eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnw, Yr oedd dylanwad yr Ysbryd fel addurn ar alluoedd naturiaethol tra rhagorol —celfyddyd yn ei champ uchaf, ac eto heb neb â llygad digon craff i'w chanfod—celfyddyd dan effeithiolaeth mor gyssegredig nad all hyawdledd dynol ei dynwared. Y mae hyn yn rhyfedd iawn! Buom yn teimlo tipyn dros sefyllfa yr hen wron pan oedd y gwr ieuanc yn nofio yn nghanol ei hwyl, a'r gwynt a'r llanw yn gweithio o'i blaid, a'r dorf wedi ei gorloni dros ben pob mesur. Ond erbyn y diwedd, yr oedd y cwbl wedi myned yn ddim—ac yntau ddim yn amgen na'r merlyn bach yn yr arddangosfa, a osodir wrth ochr yr elephant, er mwyn dangos y cyferbyniad yn fwy. Nid oes un ammheuaeth ynom nad yn y dromarawd (tragedy) yr oedd cuddiad ei gryfder ef. Y mae hyny yn