ar hyd y cymmydogaethau drwy y wlad y nosweithiau blaenorol i'r cyfarfod: ac fel hyny, byddai yr holl ynys drwyddi yn siglo yn mhob man, a'r cyfan yn cydeffeithio er tynu nifer o wrandawyr o bob plwyf, a phob tref, ac o bob cilfach a glan i'r gymmanfa fawr. Ond ar fore y cyfarfod, drwy yr holl drafferthion i gyd, a thrwy y dysgwyliadau oll, y gofyniad mynychaf a glywid oedd, "A ydyw John wedi dyfod?" A phan y deuai, byddai llygaid pob dyn arno, drwy ferw y dyddiadur, a'r cyhoeddiad, a'r gwr dyeithr, a'r siglo llaw, a'r cyfarch, i gyd. Yr oedd hyd yn oed yr olwg arno, yn ei ymddygiad boneddigaidd, a'i ddillad glân trefnus, yn ei glôs pen glin, a'i hosanau duon meinion, yn hynod o ddengar, ac yn sicr o dynu sylw pawb; ac yr oedd yr holl amgylchiadau hyn fel pe buasent yn ymuno i greu dysgwyliad, a phryder, a theimlad byw, erbyn ymgyfarfod yn yr oedfa gyhoeddus ar y maes eang. Bellach, y mae y gyfeillach ddau o'r gloch wedi myned drosodd. Y mae penderfyniadau wedi pasio yno ag sydd yn sicr o gario mwy o ymofyniad a dylanwad ar y wlad na dim a ddaeth o chwarter sessiwn erioed! Y mae yr awrlais newydd daro pump o'r gloch; y mae yn bryd cyrchu at y maes. Y mae yr holl heolydd yn orlawnion o ddyeithriaid, er nad yw hi ond nos gyntaf y cyfarfod. Pa beth, attolwg, sydd yn codi y fath deimlad y nos gyntaf? Anerchiad John Elias yn ddiau sydd yn codi yn y nifer mwyaf y teimlad penaf oll. Y mae yr heol uchaf yn ddu o bobl—pawb yn symmud yn mlaen yn yr un ffordd, ac yn cyfeirio at y maes; rhai yn cludo eu cadeiriau, a'r lleill yn cario eu hystolion. Mae yr oedfa wedi dechreu; y mae y bregeth gyntaf drosodd: gwan yn gyffredin fyddai hono, mewn cyferbyniad â rhyw un ragorol a geid gan ryw hen wron ar ei hol. Mae un o hen gawri y Deheudir yn bresennol y tro hwn, ac i bregethu ddwywaith, sef y nos gyntaf a dau o'r gloch dranoeth.
Mae ei bregeth yr awr hon yn gampus, ac yn cael ei thraddodi yn ddedwydd, ac y mae teimladau hynod yn cael eu cynnyrchu drwy yr holl dorf wrth ei gwrandaw.
Bellach, dyma adeg yr anerchiad wedi dyfod. Mae Mr. Elias yn codi i fyny, ac yn nesau at y ddesg. Mae yn edrych