o amgylch dros yr holl dorf, ac fel pe byddai yn tremio yn graff drwy bob wyneb hyd y galon ag sydd ger ei fron ar bob llaw. Y mae â'i anadl yn tynu ei fochau i mewn dan ei arleisiau uchel: y mae yn cyfeirio à'i fys ddwywaith at ryw fanau yn y dorf sydd yn sibrwd mewn tipyn o aflonyddwch, nes y mae pawb mewn mynyd mor llonydd a'r delwau ar y pared—ond y mae efe heb agor ei enau eto. O'r diwedd, y mae gwen serchus yn gwisgo ei wyneb, ac yna y mae yn dechreu llefaru :—"Y mae genyf air neu ddau i'w dywedyd cyn i neb syflyd o'i le. Nid yw hi eto prin chwarter wedi saith o'r gloch: ni raid fod brys ar neb; y mae hi yn hirddydd haf. Yr wyf wedi deall er ys meityn ar wyneb y dorf fod pawb yma heno fel pe byddai yn teimlo fod y nefoedd yn ein hymyl. Mae gweision y Duw Goruchaf yn llaw eu Meistr. Mae yn eglur eu bod wedi eu gwisgo â nerth o'r uchelder yn barod. Y mae udgorn bloedd brenin yn y gwersyll. Yr ydym wedi clywed a gweled pethau anhygoel heno. Clywsom drwst crack yn muriau Iericho, a gallwn yn hyderus ddysgwyl gweled yr hen furiau yn garneddi ar lawr cyn nos yfory; ac ni a gawn weled hyny hefyd yn sicr oni bydd i rywbeth ynom ni, neu yn ymddygiad y dorf, neu y dref, dristäu yr Ysbryd. Gan hyny, er mwyn gwerth eneidiau a all fod yn yr esgoreddfa y mynyd hwn, yr wyf yn atolwg am i bawb fod ar eu gwyliadwriaeth. Dymunwn dyngedu pob dyn sydd yma i fod yn fwy difrifol yn awr nag erioed. Na ato Duw i neb o honom fod yn euog o'r fath beth ag ymlid y golomen nefol o'n mysg. Na weler un dyn meddw ar yr heol heno, ar bwys colli ei enaid. Na fydded dim yn ymddygiad neb, yn y tai nac allan o honynt, i ddolurio teimlad un magistrate na swyddwr gwladol, mwy na'r pregethwr neu y dyn duwiol cyffredin. Dysgwyliwn i foesau yr holl dorf fod yn ddifrycheulyd heno; onide, dyma y sassiwn ddiweddaf fydd yn y dref hon byth! Y mae yma filoedd o ddyeithriaid i gael eu llettya heno yn y gymmydogaeth; cofied pob dyn fod yn ufudd i fyned i'r lle y caffo ei wahodd: pa orchest, ar hin fel hyn, fyddai myned dair milltir o ffordd, pe bai raid. Gofaled pob un am fod yn ffyddlawn a diolchgar am ei letty. Chwithau sydd yn llettya, agorwch eich drysau
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/32
Prawfddarllenwyd y dudalen hon