PENNOD III
JOHN ELIAS MEWN CYFARFOD O'R GYMDEITHAS FEIBLAU.
MEWN erthyglau blaenorol, gosodwyd ger bron ychydig o adgofion am Mr. Elias yn pregethu ar noson waith, yn anerch dorf ar y maes, ac yn cynnal addoliad teuluaidd yn y man lle y llettyai noswaith gyntaf y sassiwn yn Môn. Gelwir ein sylw y tro hwn ato yn areithio mewn cyfarfod cyhoeddus perthynol i'r Feibl Gymdeithas.
Tua deugain mlynedd yn ol—neu o leiaf yn mhen tua deg neu ddeuddeng mlynedd ar ol ei ffurfiad cyntaf—daeth y gymdeithas i ennill sylw a dylanwad neillduol drwy yr holl wledydd. Nid oedd Cymru yn ol, a Môn ac Arfon yn arbenig. Er hyny, tua'r amser hwn, yr oedd llawer yn edrych arni gyda llygad eiddigus, os nid gyda chilwg go ragfarnllyd.
Haerent mai dyfais ymneillduol oedd y Gymdeithas Frytanaidd a Thramor i wrthweithio amcan a llafur y Gymdeithas er taenu Gwybodaeth Gristionogol, yr hon oedd ar y maes yn barod, ac yn gweithio yn llwyddiannus er ys llawer dydd.
Er fod rheolau y gymdeithas newydd yn profi yn ddigon eglur i bob dyn diduedd nad oedd un math o sail i'r cyhuddiadau a ddygid i'w herbyn; eto, yr oedd yn lled anhawdd rhoddi y rhagfarn i lawr ar y cyntaf. Pa fodd bynag, gweithio ei ffordd yn mlaen, ennill tir, a chwanegu cryfder yr oedd y gymdeithas yn barhäus; a'i thrysorfa yn chwyddo yn rhyfeddol y naill flwyddyn ar ol y llall. Daeth o'r diwedd i rifo rhai o bigion y wladwriaeth yn mysg ei noddwyr a'i swyddogion. Yr oedd ei chynnydd yn dyfod i fewn mor rymus a llanw y môr, fel y buasai mor ofer i neb gynnyg troi nerth y llifeiriant ag a fuasai ceisio troi y dòn yn ei hol.
Tua'r adeg hon, yr oedd cyfarfodydd cyhoeddus y gymdeithas i gael eu cynnal yn nhrefydd Caernarfon a Beaumaris. Gwahoddwyd y Gwir Anrhydeddus Ardalydd Môn i lywyddu ynddynt. Derbyniodd y pendefig enwog y gwahoddiad yn serchus, a chydsyniodd â'r cais, gan addaw bod yn