Wedi ychydig o ddystawrwydd, ac adfeddiant o deimladau, amneidiai y cadeirydd ar gyfaill oedd ger llaw i ofyn beth oedd yr achos o'r cyffro? Nesaodd hwnw at ei glust, a dywedodd—"It was an allusion to yourself, my Lord, and the accident at Waterloo, where the interposition of Providence spared you to preside over this meeting," &c. Ar hyn, gwelid y llywydd yn prysuro i chwilio am ei ffunan poced, â'r dagrau mawr, fel y pys, yn dylifo o'i lygaid! Dychymyged y darllenydd, bellach, os gall, beth oedd y teimladau oedd wedi eu creu yn yr holl dorf erbyn hyn! Ië, dyma y maeslywydd gwrol yn wylo fel plentyn!
Nid oedd digon o nerth yn holl drwst magnelau Waterloo i fenu ar ei deimlad, mwy na'r graig; ond dyma araeth Cymro yn troi y graig gallestr yn llyn dwfr! Nid oedd dim digon o rym yn y belen a ysgarodd ei aelod i gyffroi ei ysbryd; ond dyma effaith un anerchiad yn nghyfarfod y Feibl Gymdeithas yn lliniaru yr hwn a osodai ei wyneb fel callestr, nes ei ddwyn mor dyner, mor wylaidd, mor deimladol, a'r plentyn bach!
Ni wnaeth Mr. Elias wedi hyn ond terfynu gydag appeliad dwys, oddi wrth ymadrodd yr apostol, "Bellach, frodyr, gweddïwch drosom, ar fod i air yr Arglwydd redeg, a chael gogonedd."
Tro hynod oedd hwn, ac adeg arbenig iawn ar oes Mr. Elias. Newidiodd llawer eu barn am dano ar y pryd. Aeth llawer oedd mewn rhagfarn ofnadwy yn ei erbyn o'r blaen o'r braidd i feddwl gormod o hono ar ol hyn. Aeth llawer o wŷr a fuasent yn ddigon parod i'w ddeoli ynys Patmos, am air Duw a thystiolaeth Iesu Grist, o'r bron i'w orfawrygu. Pa fodd bynag am hyny, rhoddodd gychwyn newydd yn olwynion Cymdeithas y Beiblau. Bu yn ffyddlawn a llwyddiannus iawn gyda'r gymdeithas yn mhob modd. Arferai fod yn bresennol yn ei holl gyfarfodydd blyneddol; ac effeithiodd ei ddylanwad i raddau mawr er chwyddo ei thrysorfa. Y mae Môn wedi ei hynodi ei hun am ei chyfraniadau i'r gymdeithas hon er ys blyneddoedd yn ol; ac y mae yn parhau yn yr un ysbryd haelionus hyd heddyw. A ydyw yn ormod i ni awgrymu yma fod dylanwad