PENNOD IV.
JOHN ELIAS, A CHYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN.
NID dyn i enwad, na chenedl, na gwlad, yn unig ydoedd Mr. Elias; ond dyn i'r byd, ac i eglwys Dduw yn gyffredinol. Ar yr un pryd, nid oedd heb ei syniadau neillduol na'i deimladau pleidiol. Ond yr oedd ei feddwl mor eang, a'i enaid mor fawr, fel nad allesid ei gadwyno i le na dosbarth. Ymdeimlai yn debyg i'r apostol, pan y dywedai, "Dyledwr ydwyf i'r Groegiaid ac i'r barbariaid hefyd, i'r doethion ac i'r annoethion hefyd." Yr oedd arlun o'r byd wedi ei argraffu ar ei galon. Ymdeimlai yn ddwys dan y rhwymedigaethau y gwyddai yr oedd yr efengyl wedi ei osod danynt. Gwyddai fod Rhagluniaeth wedi ymddiried cryn raddau o ddylanwad i'w law, fel offeryn er lledaenu yr efengyl; ac er cwblhau yr ymddiried a roddwyd iddo, cyflwynai holl alluoedd cryfion ei feddwl, holl nerth ei gryfder corfforol, a holl deimladau tyner ei galon, i'r gwaith. Ni arbedai ddim a allai nac a feddai, heb eu haberthu ar allor defnyddioldeb cyffredinol. Yr oedd yn un o bleidwyr mwyaf cyhoeddus y Beibl Gymdeithas, fel y crybwyllwyd yn flaenorol. Yr oedd yn un o brif gyfeillion y genadaeth hefyd. Yn mlodau ei ddyddiau, Cymdeithas Genadol Llundain a bleidiai; ac nid oerodd ei deimladau yr un gradd tuag ati hyd ei fedd ac at ei wasanaeth i'r gymdeithas hon, mewn modd neillduol, y cyfeirir yn yr erthygl hon.
Arferai Mr. Elias ysgrifenu anerchiad ar ran y genadaeth yn flyneddol: yr hwn a ddarllenid gan y cyhoedd yn wastadol gydag awyddfryd byw. Traddodai araeth gyhoeddus hefyd, yn mhob man, lle y gallai gyrhaeddyd, er annog y cynnulleidfaoedd i gyfranu i'w thrysorfa, bob tymmor gauaf; a byddai dysgwyliad mawr bob tro am yr anrheg flyneddol, yr hon a ystyrid fel calenig werthfawr gan yr holl wledydd —ac yn neillduol, tuag ynys Môn. Un bore Sabbath arbenig, teithiai drwy yr eira mawr, ar ei draed, â hen ffon hir weinidogaethol Dafydd Morys yn ei law, bum milltir o