amcan yr apostol yn ysgrifenu y llythyr; y mae yn prysuro at egluro cyssylltiadau y testyn a'r cyd-destynau. Y mae yn agor dirgelion cynnwysiad yr holl ymadroddion cryfion sydd yn cael eu harfer gan yr apostol yn llydan ac eglur o flaen meddwl pob dyn. Y mae yn gosod pob cymmal ar wahân, ac yn eu dangos ger bron y dorf, ol a blaen, wyneb a chefn, nes y mae pawb yn eu deall yn gwbl oll. Y mae fel y celfyddydwr, yn agor cauad yr awrlais, yn dattod y colynau, ac â'i efeilen yn rhyddhau pob hoel, yn dattod pob bach, ac yn tynu yr holl olwynion oddi wrth eu gilydd. Y mae yn gosod y dringlyn o'r neilldu, yn dodi y morthwyl taro ar y bwrdd, ac yn symmud y pwysau ymaith; ac wedi dangos pob paladr ac olwyn, pob pin a phegwn, pob cranc a nodwydd, ac egluro eu dybenion, y mae yn dangos y modd yr oedd y dannedd yn cydio yn eu gilydd, a'r modd yr oedd pob olwyn yn cyd-ddibynu, y naill ar y llall; ac yna y mae yn gofyn:—"A ydych chwi yn deall natur y peiriant?" Y mae agwedd y bobl yn ateb, " r ydym yn deall yr awr a'r mynyd, wrth edrych ar y wyneb, y ffugyrau, a'r bysedd." "Ië," meddai yntau, "ond y mae arnaf eisieu i chwi ddeall y modd y mae yr olwynion mewnol yn symmud, er dangos yr amser i chwi, fel na byddo i neb o honoch betruso dim, nac ofni unwaith eich bod yn cael eich siomi am y gwirionedd"—ac yna y mae yn dodi y cyfan wrth eu gilydd fel o'r blaen. Felly, yn debyg i'r crefftwr medrus, yr oedd y pregethwr yr oedd yn agor pob adnod, yn egluro pob ymadrodd, ac yn esbonio pob gair; ac yn eu dangos bob un, yn mhob golygiad, i bawb, fel nad oedd modd i neb eu camddeall. Yr oedd yn gosod pob athrawiaeth, pob egwyddor, a phob addysg, fel goleuni haul hanner dydd o flaen meddwl pawb —ïe, hyd yn oed y gwanaf ei ddeall yn y lle. Gwedi chwalu a chwilio y cyfan ar wahân, gosodai y cwbl yn nghyd drachefn, yn ngoleuni eu cynnwysiad, eu cyssylltiad, a'u dyben. Mynai i bawb wybod cymmaint ag a wyddai yntau ei hun ar bob pwnc. Gwnaed hyn oll mewn tuag ugain mynyd o amser. Yr oedd y dorf yn ymddangos wrth ei bodd, ac yn gwenu mewn syndod a difyrwch anarferol! Yr oedd ef wedi bod hyd yn hyn yn ymwneyd yn unig â deall y bobl, ond yr oedd yn ymddangos fel pe buasai yn
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/57
Prawfddarllenwyd y dudalen hon