ymwybodol ei fod wedi cael gafael ar yr allwedd at eu teimladau a'u calonau.
Yr oedd yn ddigon amlwg erbyn hyn fod y pregethwr wedi perffaith ennill y sylw mwyaf astud a difrifol. Yr oedd wedi rhwymo pob clust wrth ei wefus, tra y bu yn esbonio iddynt yr Ysgrythyrau. Daeth rhagddo yn fuan i draethu ar anfeidrol fawredd cariad Duw at fyd colledig. Dywedodd, "Yr wyf yn canfod fel pe byddai holl ogoniant caritor Duwdod mawr yn cael ei osod allan mewn tri gair, sef—Duw, cariad yw.' Ac nid oedd ryfedd i Ioan ddywedyd, Yn hyn y mae cariad: nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau ni.' Yr oedd fel pe buasai am gynnwys mewn un ymadrodd gymmaint ag a ellid ddywedyd byth am ei gariad! Nid yn unig, y mae cariad yn briodoledd yn y Duwdod, ond dyma ydyw ei hanfod; dyma ydyw ei garitor. Y mae ei gariad yn pelydru drwy holl drefn yr iachawdwriaeth, a thrwy holl egwyddorion llywodraeth Duw." Yma yr oedd efe yn dechreu ymollwng i rym ei hyawdledd dylanwadol, ac yr oedd yr effeithioldeb ar y dorf yn cynnyddu, yn mron gyda phob brawddeg. Yr oedd fel llanw y môr yn dringo yn uwch, uwch, o dòn i dòn, yn ddiorphwys, ac ambell nawfed tòn yn rhuthro yn nes i'r lan ar draws pob peth, gyda mwy o rym. Yr oedd dylanwad ei weinidogaeth yn rhedeg dros deimladau yr holl dorf, nes yr oedd ocheneidiau y bobl fel pe buasent yn mynu tori allan, er maint oedd pawb yn geisio eu cadw i lawr a'u hattal, hyd yn hyn. Daeth i gyflawn nerth ei areithyddiaeth, a'i feistrolaeth ar deimladau y bobl, gyda'r ymadroddion canlynol, y rhai a dywalltodd efe fel cawod o wlaw taranau ar benau y gwrandawyr oll:— "Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw,' sef yn anfoniad ei Fab i'r byd. Dyma lle yr eglurodd Duw ei galon. Nid yw ei briodoliaethau, a llefaru yn feirniadol, yn ddim amgen na gwahanol amlygiadau o'i gariad. Beth yw ei ddoethineb? Dim ond ei gariad yn llunio trefn i achub pechadur euog. Beth yw ei allu? Dim ond ei gariad yn gweithio allan ffordd iachawdwriaeth. Beth yw ei wirionedd? Dim ond ei gariad yn cwblhau pob peth oedd yn ofynol er gwaredu yr euog. Beth yw ei sancteiddrwydd?