Dim ond ei gariad yn gwahardd pob peth sydd yn niweidiol i gyflwr dyn. Beth yw ei ddigofaint? Dim ond ei gariad at drefn; yr hwn sydd fel mur tanllyd o'n hamgylch, i'n cadw rhag pob drwg!" Ni allodd fyned rhagddo gyda y gofyniadau a'r atebion hyn, ddim yn mhellach; o blegid torodd teimladau nifer o bobl lled ieuainc oedd yn agos i'r areithfa yn ddrylliau, ac yr oedd yn fanllef o waeddi am drugaredd, ac am faddeuant, ac am fywyd, drwy y lle. O herwydd hyn, arafodd yntau, a throes atynt, mewn cyfeiriad tyner, ac erfyniodd arnynt ymdrechu i lywodraethu eu hunain, ac attal eu tymmerau, os gallent mewn un modd; a dywedai ei fod ef heb ddyfod at amcan ei genadwri eto, a bod arno eisieu ymddyddan â'r bobl bellaf ar y maes, yr un modd a hwythau:—" Ac heb law hyny," meddai ef, "y mae hi yn rhy fuan i waeddi eto; y mae y seithfed tro heb ddyfod. Nid oedd Israel i waeddi dim wrth gaerau Iericho gynt, hyd nes y byddai iddynt weled yr hen furiau yn dechreu cwympo; ac yna, yr oedd Ioshua yn gorchymyn iddynt waeddi. Nid yw caerau annuwioldeb wedi dechreu chwalu yma eto, er ein bod yn dysgwyl gweled pethau mawrion cyn diwedd y cyfarfod yma ac yn wir, yr ydym bron a dychymygu ein bod yn clywed yr hen dyrod yn dechreu cracio yn barod, a phan gyntaf y gweloch chwi yr hen gestyll yn dechreu syrthio, yna gwaeddwch, yn enw yr Arglwydd!" Ar hyn, yn lle attal teimladau, dyma dymmerau yr holl dorf fawr, yn ymddryllio ar unwaith, a wynebau pawb oll, yn hen ac yn ieuanc, yn un foddfa gyffredinol o ddagrau; rhai yn ceisio sychu eu gruddiau gwlybion, ac ereill am eu bywyd yn ceisio ymattal rhag tori allan i waeddi mwy; ac ereill yn mron ymdori wrth ymgynnal, mewn awydd clywed y genadwri fawr yn dyfod allan yn eithafion ei nerth. Pa fodd bynag, lliniarodd tymmerau y bobl yn raddol; ond yr oedd yn amlwg fod pob teimlad a feddai pob dyn oedd ar y maes wedi cael eu symmud mewn rhyw ffordd neu gilydd; yr oedd grym y weinidogaeth yn dwyn cyflyrau a phrofiadau y gwrandawyr i'w gwynebau; yr oedd y genadwri onest yn dreiddgar, " ac yn llymach nag un cleddyf dau—finiog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd, a'r cymmalau a'r mêr, ac yn barnu medd-
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/59
Prawfddarllenwyd y dudalen hon