hyny. Sylwyd fod pregethau rhagorol yn cael eu traddodi am ddau a chwech o'r gloch, ond nad oedd modd cael gafael ar ddim rywfodd; o blegid "lled, a hyd, ac uchder, a dyfnder," oedd yn nghlustiau a chalonau y bobl o hyd! Sylwyd fod y bregeth am ddau yn daranllyd iawn, ond nid oedd yno ddin meilt; a bod y bregeth am chwech yn dyner iawn, fel y gwlith, ond nid oedd yn ireiddio dim ar neb; yr oedd yn sychu i fyny yn union. Nid oedd dim modd cael meddyliau y bobl at ddim ond at y bregeth yn y bore! Bernir fod y tro hwn wedi bod yn achubiaeth i luaws o eneidiau, ac yn adnewyddiad i lawer o eglwysi—nid yn unig yn y lle a'r gymmydogaeth, ond hefyd drwy yr holl wlad!
Wrth adgoffa y nerthoedd rhyfeddol hyn, pwy na waeddai gyda y prophwyd, "Deffro, deffro, gwisg nerth, O fraich yr Arglwydd! deffro fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt. Onid ti yw yr hwn a doraist Rahab, ac a archollaist y ddraig Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr, dyfroedd y dyfnder mawr yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i'r gwaredigion i fyned drwodd?"