i'w weled yn cuddio ei wyneb, ac yn llanw ei galon. Y mae yn ymddyrchafu yn ei dduwiolfrydedd eto, ac y mae rhyw arucheledd anrhydeddus yn ei ymadroddion grasol. Y mae fel pe byddai yn cael benthyg aden cerub eto, ac yn ymgodi yn raddol oddi ar y ddaiar, ac yn myned yn uwch, uwch, hyd at ymyl teyrngadair y nef, i wyddfod y Duwdod mawr! Y mae yn arswydo! Y mae yn ymwroli eilwaith. Y mae wedi cael golwg ar y Cyfryngwr ar ddeheulaw y Tad. Y mae nid yn unig yn esgyn ei hunan, ond y mae yn dechreu ein codi ninnau hefyd gydag ef. Y mae wedi ennill yr holl dorf i'w deimladau ei hun. Y mae dystawrwydd y bedd dros yr holl addoldy eang. Y mae yr holl gynnulleidfa, yn hen ac yn ieuanc, yn broffeswyr a dibroffes, â'u mynwesau yn orlawn o bryder dwys, megys yn mhresennoldeb y Brenin. Y maent fel pe byddai arnynt ofn gollwng eu hanadl. Clywid trwst pin, pe buasai le iddi ddisgyn ar y llawr. Y mae golwg y dorf fel pe byddai yn myned yn fwy treiddgar o hyd fel y mae ef yn myned yn mlaen yn ei weddi afaelgar. Y mae y lleni yn cael eu symmud, ac y mae y nef, o'r diwedd, fel pe byddai yn ymagor o flaen meddwl y bobl y mae y ddaiar wedi colli dan eu gwadnau—y mae y byd a'i bethau wedi eu llwyr anghofio—y mae fel pe byddai cwmwl gogoniant yn cuddio marwoldeb allan o'r golwg, ac y mae y bobl fel pe byddent yn nheimlad yr ysbrydion dignawd. Y mae pob meddwl wedi ei gaethiwo i syniadau y weddi. Nid oes yma ond un galon drwy y lle i gyd! Y mae pawb yn edrych yn ddyfal tuag i fyny, fel pe byddent yn tybied eu bod yn cael eu codi, yn yr Ysbryd, i fynydd mawr ac uchel, ac yn cael golwg ar y ddinas nefol—y Ierusalem sanctaidd—yn disgyn oddi wrth Dduw—a'i goleuni hi ydyw yr Oen, a'r Arglwydd Dduw Hollalluog yn deml iddi! Y maent o'r braidd yn dychymygu clywed yr Hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc yn dywedyd, "Dring i fyny yma. Wele, yr ydwyf fi yn gwneuthur pob peth yn newydd." Y mae pawb wedi eu taro â syndod, ac â difrifoldeb, na theimlasant mo hono erioed o'r blaen. Y maent fel pe baent yn anadlu mewn awyr burach nag a brofasant erioed. Y mae yn rhaid fod rhyw farworyn oddi ar yr allor wedi cyffwrdd â phob calon, ac y maent fel pe byddent yn
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/67
Prawfddarllenwyd y dudalen hon