gweled ac yn teimlo eu dymuniadau yn ymuno yn weddïau, ac yn dyrchafu i fyny gyda mwg yr arogldarth lawer! Y mae yn anhawdd iawn rhoddi cyfrif am deimladau fel hyn! Cof yw genym fod yn y Colosseum yn Llundain unwaith, gyda nifer o gyfeillion, mewn ystafell yno; ac yn fuan wedi eistedd, wele yr ystafell i gyd yn dechreu ymgodi, o'r bron yn ddiarwybod i ni; a'r byrddau, y cadeiriau, y dodrefn, a'r cyfan, yn cydesgyn yn esmwyth, megys ar adenydd yr awel dyner, nes yr oeddym yn gwbl ddifeddwl i ni ein hunain yn uchder y nen; a'r ddinas fawr i'w gweled isod, draw, yn ddofn, bell, o danom! Yr oedd rhywbeth tra thebyg i hyny y tro hwn. Yr oedd y gynnulleidfa oll wedi ei chodi yn ei dychymyg, yn ddiarwybod iddi ei hun, yn awyren y weddi, nes yr ydoedd wrth borth ardderchog dinas y Duw byw y Gaersalem nefol; ac wedi dyfod i blith myrddiwn o angelion, y rhai oedd yn gweini yn ol ac yn mlaen, fel ar hyd ysgol Iacob; ac i ganol "cymmanfa a chynnulleidfa y rhai cyntafanedig, ac ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd; ac o'r braidd yn meddwl eu bod yn cael uno eu caniadau â llu y nef, ac yn gwaeddi allan, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Hollalluog," &c. Clywsom lawer gwaith son am nefoedd ar y ddaiar:—os nad hyn ydyw, ni wyddom beth a all fod.
Wedi bod yn ymddyrchafu felly, megys ar adenydd ysbrydoliaeth, am gryn amser, a'r gynnulleidfa yn cydymsymmud â'i wefus a'i deimlad, disgynodd yn fuan yn ei gyfeiriad yn fwy uniongyrchol at yr addoldy newydd ac achlysur y cyfarfod. Yr oedd ei erfyniau yn rymus iawn ar iddo fod yn gwbl gyssegredig at ogoniant Duw, dyrchafiad y Gwaredwr, ac achubiaeth eneidiau dynion::—na byddai i'r areithfa hwnw byth gael ei llychwino â dysgeidiaeth doethineb y byd hwn; na byddai i athrawiaeth balchder calon dyn, na gwenwyn philosophi a gwag dwyll, syniad y cnawd, gael byth ddringo i'r lle cyssegredig hwnw; na byddai i athrawon dysgeidiaeth llywodraeth wladol, nad arswydant gablu urddas, byth ddringo y grisiau adamant hyny. "Gwell fyddai genym i'r lle hwn gael ei droi fel hen allor Athen, ac ysgrifenu ar ei furiau, I'r Duw nid adwaenir, nag i'r lle hwn gael ei halogi âg athrawiaeth rhes-