ymoliaeth dyn, sydd yn dywedyd yn haerllug yn erbyn y gwirionedd, ac yn twyllo dynion am gadwedigaeth eu heneidiau." Erbyn hyn, yr oedd yr arddwysedd cyntaf wedi colli i raddau, a'r teimladau cynhes, dystaw, cyssegredig, a deimlid o'r blaen, wedi dechreu oeri; ac yr oedd dorf o ran ei serchiadau yn teimlo ei hun megys wedi disgyn cryn raddau i lawr tuag at y ddaiar yn ol!
Yr oedd ei erfyniau ar fod yr areithfa hwnw yn dyst ffyddlawn dros burdeb yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb yn effeithiol dros ben. Arwyddai, os collid golwg ar athrawiaeth cadwedigaeth pechadur trwy ffydd yn nghyfiawnder Crist yn unig, heb ddim o weithredoedd y ddeddf, y byddai y gogoniant wedi ymadael; na byddai harddwch yr adeilad ond cofgolofn i'r oes a ddel o ddirywiad crefydd, ac ymadawiad oddi wrth symledd yr efengyl; a throad oddi wrth egwyddorion y Diwygiad at gyfeiliornad yr oesoedd tywyll yn ol, ac y byddai yn well cerfio Ichabod ar y maen clo! "Os efengyla neb amgen na'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb yn yr areithfa hwn, bydded anathema maranatha. Pe byddai i ni, neu angel o'r nef, efengylu yn y lle hwn amgen na'r gwirionedd megys y mae yn yr Iesu, bydded esgymunedig byth!" Yr oedd rhyw fath o arswyd a dychryn i'w weled yn wyneb y dorf ar hyn o bryd!
Wedi hyn, newidiodd yn hollol yn ei deimlad, ac ymollyngodd i dynerwch effeithiol a thoddedig iawn, nes yr oedd mynwesau pawb yn adgynhesu drachefn; ac yr oedd y teimladau erbyn hyn, yn dechreu tori allan mewn dagrau, ac ocheneidiau dwysion iawn. Yr oedd ei erfyniau ar fod i Ysbryd Duw gael ei dywallt ar y lle yn wir effeithiol. Erfyniai ar fod yr Ysbryd yn fywyd pob rhan o bob addoliad a fyddai yno byth! "Na fydded i un geneu ddywedyd yr Arglwydd Iesu, yn yr areithfa hwn, eithr trwy yr Ysbryd Glân. Na fydded yma byth bregethu, er mwyn difyru y glust, a boddhau cywreinrwydd calon lygredig dyn, ond pregethu felly, fel y credo lluaws mawr. Na fydded i neb agor ei wefus yma i weddïo, ond yn nghymhorth yr Ysbryd Glân: a dyrchafu dwylaw sanctaidd, heb na digter na dadl. Symmuder oddi yma drwst y caniadau, ac na wrandawer yma ar beroriaeth nablau, oni byddo y canu â'r