Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ysbryd. Na chyflawner yma un gwasanaeth ond a fyddo wedi ei roddi gan yr Ysbryd, a'i eneinio gan yr Ysbryd, ac a fyddo yn cael ei arddel gan Ysbryd y Duw byw!" Yma, tröai mewn tymmer pur ddrylliog i ddiolch am fod pob arwyddion nad oedd y gogoniant wedi ymadael, ond fod "Duw yn wir ynom." Erfyniai ar i'r deyrnas oll gymmeryd addysg rhag i'r Ysbryd ymadael o honi. Terfynai mewn cyfeiriad at amryw o'r cewri yn y weinidogaeth oedd wedi eu symmud oddi ar y maes yn ddiweddar, ac adroddai eiriau Iosuah drosodd eilwaith a thrachefn, gyda llais toddedig iawn, "O haul! aros," &c., a hyny gydag effeithioldeb a difrifoldeb mawr iawn! Yr oedd y gynnulleidfa yn y fan hon eilwaith fel pe buasai wedi ei tharo â syndod cyffröus, a bu raid dechreu y canu, cyn y gallai ymgodi yn gwbl er dyfod allan o'r perlewyg ag yr oedd ynddo ar derfyn y weddi ryfedd hon!

Ni allwn ollwng yr adgofion hyn heibio heb gynnyg nodiad neu ddau arnynt. Yr oedd y weddi hon, o ran ei chynnwysiad, ei chyfansoddiad, a'i chyssondeb, mor drefnus a rheolaidd, a phe buasai yn ffurf o weddi ysgrifenedig; a buasai yn ymddangos yn bur debyg i gynllun bwriadol felly, ar gyfer y gwasanaeth arbenig hwn, ond fel yr oedd hysbysrwydd am yr amgylchiadau yn profi peth arall. Yr oedd y pregethau, drwy y cyfarfod, at eu gilydd yn rymus iawn. Yr oedd ei bregeth ef ei hun, am ddeg o'r gloch, y bore dranoeth, oddi wrth y geiriau, "Ysbryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd," yn nerthol dros ben; ond er hyn oll, nid oedd dim yn ystod y cyfarfod drwyddo wedi cario y fath ddylanwad, na gosod y fath argraff ar feddyliau y bobl, a'r weddi y noswaith gyntaf. Yr oedd yn gofyn cryn wroldeb yn y gweinidogion oedd i bregethu y noswaith hono, i ymaflyd yn eu gorchwyl, wedi y symmudiad hedegog uchel hwn, a da iawn mai cewri oeddynt—a daethant drwy eu gwasanaeth yn llawn cystal ag y gallesid dysgwyl. Pregethodd y cyntaf oddi wrth Salm xcv. 10, 11; a'r ail oddi wrth Salm cii. 16. Yr oedd yn eglur fod pregeth Elias wedi ei llunio ar gyfer yr amgylchiad, ond yr oedd wedi tywallt holl hanfod egwyddorion ei bregeth yn ei weddi y noswaith cynt, ac o blegid hyny yn ddiau wedi