ei gwanhau i raddau mawr. Y mae hyny yn dangos yn ddigon eglur fod amcan ei bregeth yn gwreichioni yn fyw yu ei fynwes mor effeithiol ar y pryd fel yr oedd megys tân yn ennyn ac yn tori allan cyn yr amser. Ymddangosai hyn i lawer oedd yno ar y pryd fel y rheswm am orlawnder y meddyliau dwysion oedd yn y weddi. Peth arall sydd yn profi yn amlwg mai nid ffurf ydoedd, yn y meddwl, mwy aag mewn ysgrifen, oedd yr effeithioldeb digyffelyb oedd wedi ei gario ar feddyliau y bobl. Yr oedd yno ryw ysbrydiaeth a fuasai yn tori allan o gylch pob rheol fwriadol; yr oedd yno ryw gynhyrfiad a fuasai yn rhwygo rhwymyn pob ffurf yn dipiau. Ni allasai defod farw gynneu y fath farwor byw. Teimlad cyffröus ei feddwl ef ei hun ydoedd, wedi dyfod i gyffwrdd â theimladau meddyliau y dorf. Nid oedd dim llai na'r dylanwad hwnw a fuasai yn cymmeryd i fyny holl syniad cynnulleidfa mor luosog ar unwaith, mor llwyr iddo ei hun. Yr oedd yr arddwysedd anarferol oedd ynddo ef wedi ei gyflwyno i'r gwrandawyr, nes eu hysbrydoli yr un modd. Fel y daethai ei deimladau ef, tua'r canol, yn fwy claiar, yr oedd teimladau y bobl yn cyd-ddisgyn, a hyny mor gysson a thymmeredd yr hinfesurydd.
Dengys yr hanes hwn yn amlwg iawn fod gwrthddrych ein HADGOFION, nid yn unig yn bregethwr ac areithiwr uchel, ond hefyd yn Gristion gostyngedig a phrofiadol. Yr oedd y weddi yn debyg i'r hyn a ddywedir am yr offeiriaid a'r Lefiaid hyny a gyfodasant i fendithio y bobl gynt— Gwrandawyd ar eu llef hwynt, a'u gweddi hwynt a aeth i fyny i breswylfod sanctaidd Duw, i'r nefoedd!"