Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VII.

JOHN ELIAS YN BEDYDDIO.

Yr oedd rhyw brydferthwch neillduol yn holl gyflawniadau gweinidogaethol Mr. Elias, gan nad yn mha orchwyl yr ymaflai. Yr oedd yn deilwng o hono ei hun, ac o'i swydd, yn mhob rhan o'r gwaith. Yr oedd yn hynod yn ei sylwadau, ac yn ei ymddygiad, bob amser, wrth weinyddu yr ordinhadau, sef Bedydd a Swper yr Arglwydd. Yr oedd ei syniadau cryfion, ei deimladau difrifol, ei weddïau taer, yn nghyd â'i ddull gwylaidd yn cyflawnu y cyfan, yn sicr o ennill sylw a gosod argraff ddwys ar feddyliau pawb. Byddai ef yn wastadol yn sicr o gadw golwg ar y cynghor apostolaidd, "Gwneler pob peth yn weddus ac mewn trefn;" fel na roddid achos tramgwydd mewn dim, ac na feiid ar y weinidogaeth.

Yr oedd adfywiad neillduol ar grefydd trwy holl wlad Môn ar un adeg arbenig. Yr oedd dynion, ac yn enwedig y genedlaeth ieuanc, wrth y degau a'r ugeiniau yn cael eu dychwelyd, ac yn ymuno â'r eglwysi. Ar dymmor mor lewyrchus ar grefydd, yr oedd yn naturiol dysgwyl y byddai i sylw y cyhoedd gael ei dynu at y cynnydd dirfawr oedd yn nifer proffeswyr yn mhob parth o'r wlad. Pa fodd bynag, fel y mae rhai dynion llawn o uchelgais yn mysg pob enwad o grefyddwyr, cyffroes hyn deimladau rhai athrawon, mewn eiddigedd mawr dros yr hyn a alwent "crefydd y commisiwn," fel y troisant allan yn genadon, tebyg i'r rhai hyny gynt, a bregethent, "Oni enwaedir chwi yn ol defod Moses, ni ellwch chwi fod yn gadwedig." Felly yr oedd y bobl hyn wedi ei wneyd yn bwnc, pa le bynag y cyfarfyddent â'r dychweledigion ieuainc, i ddywedyd wrthynt, "Oni throcher chwi, yn ol defod y Bedyddwyr, ni ellwch fod yn gadwedig!" "Nid ydych wedi ufuddhau; a chan hyny, ni ellwch fod yn ddysgyblion i Grist," &c. Ac felly, yr oeddynt wedi maglu a dyrysu llawer, ac wedi llwyr darfu rhai. Meddodd un o honynt y gwroldeb o fyned at Mr. Elias, i dŷ capel y Gors-