gar, a'r ammhëus sydd yn petruso, ac yn enwedig yr ieuenctyd anmhrofiadol, byddwn yn defnyddio ambell gyfle fel hyn i nodi allan yr ysgrythyrau sydd yn gosod y pwnc yn ei oleuni a'i ddyben priodol ei hun. Y mae rhai yn gwneyd gormod o'r ordinhâd, ac ereill yn gwneyd rhy fach o honi. Y mae rhai yn ceisio ei gwneyd yn bob peth, a'r lleill yn ceisio ei gwneyd yn ddim. Y mae Eglwys Rhufain, a rhai pleidiau ereill hefyd yn ei dilyn, yn ei gwneyd yn foddion cadwedigaeth yr enaid, ac felly yn ceisio gwneyd edifeirweh tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist yn ofer; ac y mae y Crynwyr o'r ochr arall drachefn yn rhedeg i'r eithafion cyferbyniol, ac yn ei diddymu yn hollol, gan ei goblygu i fyny gydag amryw fedyddiadau, seremonïau, a defodau cnawdol yr hen oruchwyliaeth. Yr ydym ninnau yn ymdrechu sefyll ar y canol, gan ei gosod yn y man y gosodwyd hi gan Grist ei hun."
Yn y fan hon, dechreuodd draethu yn rymus, goleu, ac argyhoeddiadol iawn ar y testyn drwyddo; dangosodd ef yn ei holl gyssylltiadau, yn drwyadl, heb ysgoi un anhawsder, gan gyfarfod pob gwrthddadl yn ei gwyneb. Ymdrechai i ochel rhag llusgo unrhyw ymadrodd allan o'i berthynas â'r cyd—destynau; a dywedai ei fod yn ymdrechu i olrhain yr Ysgrythyrau er mwyn cael gwybod meddwl yr Ysbryd, sydd yn chwilio, ïe, dyfnion bethau Duw; ac nid dirdynu y gwirionedd allan o'i ystyr naturiol ei hun, er mwyn cynnal i fyny osodiadau un dyn. Eglurai ddyben bedydd mewn byr eiriau:— "Y mae yr elfen a ddefnyddir yn arwydd gweledig o fendith ysbrydol. Dwfr glân, neu ddwfr pur, yn cael ei gymhwyso at y bedyddiedig, yn enw y Drindod, gan berson wedi ei alw gan Dduw, a'i neillduo gan ei eglwys, i'r swydd weinidogaethol, ydyw bedydd. Y mae yn arwyddo puredigaeth, golchiad, neu faddeuant pechodau. Y mae cymhwysiad o'r dwfr at yr un y gweinyddir arno yn arwyddo cymhwysiad o'r iachawdwriaeth sydd yn Nghrist at bechadur." Dechreuodd ei sylwadau beirniadol gyda y deiliaid. Eglurai amcan y gorchymyn i fedyddio, fel y mae wedi ei gofnodi gan yr efengylwyr— "Ewch i'r holl fyd." Yr oedd wedi anfon ei ddysgyblion trwy wlad Iudea o'r blaen, cyn ei farwolaeth; ond wedi ei