ar yr Iuddewon, am na ddygent ei ffrwythau—pan y torwyd y cangenau ymaith, ni symmudwyd y boncyff; a phan ddychweler hwy yn ol, eu himpio yn yr hen wreiddyn—yn eu holewydden eu hun—a wneir. Yr un yw yr eglwys, o ran ei dyben, yn awr a'r pryd hwnw. Gan fod y plant ynddi gynt, rhaid eu bod felly yn awr, oni ddarfu i Dduw ei hun eu tori ymaith. Atolwg, pwy a allai eu tori ymaith? Yn mha le y mae y bennod, pa le y mae yr adnod, lle y crybwyllir am eu diarddeliad? Pa le, mewn gorchymyn neu esampl, y mae yr awgrymiad lleiaf am y fath beth? Ni allwn ei ganfod. A hyd na ddangoser hyny i ni, ni allwn ryfygu eu hysbeilio o'u hawlfraint briodol yn yr eglwys yn awr, yn ol gosodiad Duw ei hun. Na, yn y gwrthwyneb yn hollol y mae; o blegid y mae yr apostolion, yn eu llythyrau, yn cyfeirio yn benodol at y plant oedd yn yr eglwys y pryd hwnw, pan oedd yn ei mabandod, megys morwyn bur i Grist." Cyfeiriodd yn rymus iawn hefyd at yr ymadroddion sydd yn dangos fod plant yn cael eu galw yn ddysgyblion gan Grist ei hun. Ystyriai ddadleu fod credinwyr yn ddeiliaid priodol o fedydd yn afreidiol, gan nad oedd neb yn ammheu nac yn gwadu hyny: ond y pwnc mewn dadl ydyw, A ydyw y plant i gael eu cau allan? Os ydynt, ar ba awdurdod? Soniai fel y mae yr apostol yn egluro fel y mae y wraig ddigred yn cael ei sancteiddio trwy y gŵr a fyddai yn credu, ac o ganlyniad, fod eu plant yn sanctaidd; ac felly, mewn hawl i'r breintiau mawr sydd yn yr efengyl.
Gwnaeth ei nodiadau yn dra manwl ar daenelliad, tywalltiad, &c., fel y dull priodol o weinyddu yr ordinhâd; a hyny gyda llawer o ddeheurwydd o ran ymresymiad a phrofion ysgrythyrol, gydag egluriadau ar ystyr y gair, a'i gyfatebiad i amryw fedyddiadau yr hen oruchwyliaeth, y rhai a weinyddid trwy daenelliad, fel moddion priodol glanhâd. "Taenellaf arnoch ddwfr glân, fel y byddoch lân," &c. Dangosodd ei fod yn berffaith gyfateb fel ffugri fedydd yr Ysbryd Glân, yn ol y darluniadau Ysgrythyrol: "Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele mi a dywalltaf fy Ysbryd i chwi;" "Hyd oni thywallter yr Ysbryd o'r uchelder;" "Tywalltaf o'm Hysbryd ar bob cnawd;""Tywalltaf fy Ysbryd ar dy hâd, a'm bendish ar dy hiliogaeth," &c. Felly y mae yn cyfateb i'r