hanes Ysgrythyrol yn amser yr apostolion; megys yr ymadroddion, "Efe a dywalltodd y peth yma a welwch ac a glywch chwi;" "Yr Ysbryd Glân, yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth," &c.; "Syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bob un oedd yn clywed y gair;" "Taenellu ar y llyfr a'r bobl oll," &c.; ac yn gyfatebiad priodol fel arwydd o lanhâd a phuredigaeth. Y mae yr arwydd a'r arwyddocâd yn sefyll yn eglur ar gyfer eu gilydd—"Geni o ddwfr ac o'r Ysbryd;" "Sancteiddio a glanhau â'r olchfa ddwfr drwy y gair;" "golchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân;" "glanhau ein calonau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein cyrff â dwfr glân," &c. "Y mae y dwfr, y dwfr glân, &c., yn golygu yr arwydd; a'r adenedigaeth, yr adnewyddiad, &c., yn golygu yr hyn a arwyddoceir. Y mae y naill yn golygu y cysgod, a'r llall yn dangos y sylwedd." Dangosai ei addasrwydd yn ei gydweddiad â dull esmwyth gweinidogaeth yr efengyl yn ei holl osodiadau; yr hawsder naturiaethol diberygl mewn gweinyddiad yn mhob gwlad, yn mhob hinsawdd, ar bob tymmor, ac yn mhob adeg. Dangosai fod ychydig o ddwfr mor briodol fel arwydd yn y bedydd ag ydyw ychydig o fara ac ychydig o win yn y swper sanctaidd; a bod y wyneb yn arwyddo y dyn, fel y dywedai yr apostol, "Mi a'i gwrthwynebais ef yn ei wyneb;" yr hyn a arwyddocäai ei wyddfod neu ei bresennoldeb. Rhedodd dros y cofnodion Ysgrythyrol am yr holl deuluoedd a'r personau a fedyddiwyd, o fedydd Ioan drwy holl fedyddiadau yr apostolion. Gwnaeth nodiadau beirniadol tra manwl ar y testynau ag y gwrthddadleuir yn eu cylch; megys, "Claddwyd ni gan hyny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth;" "Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig;" "y myned i waered i'r dwfr;" "y dyfod i fyny o'r dwfr," &c., gydag eglurhâd tra boddhaol i bawb oedd yn gwrandaw; a therfynodd ei sylwadau ar natur yr ordinhâd gydag appeliad dwys a difrifol iawn at y dorf ar ei thuedd ymarferol, fel cymhelliad i fywyd duwiol.
Wedi gwneyd cyfeiriad effeithiol iawn at y darluniad yn yr ordinhâd o aflendid cyffredinol dynoliaeth, ac`at yr arwydd eglur sydd ynddi o'r ffynnon ogoneddus a agorwyd ar Galfaria i bechod ac aflendid, sylwodd ar rwymedigaeth y