o freintiau y deyrnas?—y deyrnas nad yw o'r byd hwn! Wedi eu bedyddio, gweddïodd drostynt yn afaelgar ac effeithiol iawn yna, rhoddodd bennill allan i'w ganu, o waith yr enwog Jones o Ddinbych; ac unodd yr holl dorf yn y mawl gyda'r teimladau mwyaf cynhes:
"Nol d'orchymyn, Arglwydd Iesu,
Gynt bedyddiwyd llawer teulu,
Am dy fod, o'th rinwedd didranc,
Yn glanhau yr hen a'r ieuanc."
Yn y swydd o fedyddio, yr oedd cryn wahaniaeth, ar ryw gyfrif, rhwng Elias a Paul. Nid oedd apostol mawr y Cenedloedd wedi bedyddio rhyw luaws mawr, o leiaf yn Corinth; ond yr oedd apostol mawr y Cymry wedi bedyddio miloedd, ïe, yn Môn yn unig, heb son am ranau ereill o'r Dywysogaeth, a llawer o drefydd Lloegr. Odid y gellir myned i gwm yn yr ynys heddyw na cheir clywed rhywun yn dywedyd, "John Elias a'm bedyddiodd i!"
Bu effeithiau dymunol iawn mewn canlyniad i'r anerchiad uchod; cafodd y dysgyblion ieuainc lonydd, i raddau, oddi wrth yr ymosod gan yr athrawon ereill. Cawsant eu hyfforddi yn yr Ysgrythyrau, a'u cadarnhau yn y gwirionedd, gan rodio yn addas i'r alwedigaeth eu galwyd iddi; "a chan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai yn Nghrist, aethant rhagddynt at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw, i athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw, a'r farn dragwyddol." A hyn a wnaethant, fel y caniataodd Duw.