disgyn ar y llawr. Yr oedd brys ar y milwyr i'w ddal a'i rwymo; brys yn ei arwain drwy yr heolydd, ac i'r llysoedd; brys am ei gondemnio a'i fflangellu, ei wawdio, a'i rithgoroni; a brys am ei yru o'r byd! Dyma destyn ein myryrdodau ni heno. 'Wele y dyn!' Dacw yr hwn oedd yn ddysgleirdeb gogoniant y Tad, ac yn wir lun ei Berson ef, dan gondemniad am feiau nad oedd yn euog o honynt! Dacw ddedfryd marwolaeth y groes ar yr Oen difeius a difrycheulyd! Dacw yr hwn sydd yn dal teyrnwialen llywodraeth y byd ar orsedd y nef yn sefyll yn fud o flaen gorsedd y rhaglaw Rhufeinaidd! Dacw yr hwn sydd yn gwisgo goleuni fel dilledyn, ac yn taenu y nefoedd fel llen, a'r milwyr yn rhanu ei ddillad, ac yn bwrw coelbren am ei wisg ddiwnïad! Dacw yr hwn sydd wedi ei goroni â gogoniant ac â harddwch, wedi ei goroni â drain! Nid oedd ryfedd gwaeddi allan, 'Wele y dyn!' Wel, atolwg, mewn pa faint o amser y dygwyd yr holl orchwylion hyn yn mlaen? Y nos y bradychwyd ef! Dyma rai o'r pethau sydd genym ninnau yn awr i'w cofio, fel y byddo i'n calonau gael eu llanw â gwir gariad ato. Beth a allai fod yn llanw ei feddwl ef y pryd hwnw? Yr oedd efe wedi anghofio pawb gan fawredd ei drallod ei hun. Na: yr oedd ei gariad at ei bobl yn uchaf ar ei galon o hyd! Yr oedd yr archoffeiriad yn myned âg enwau deuddeg llwyth Israel ar ei fynwes i'r cyssegr; felly yr oedd enwau ei bobl wedi eu hysgrifenu ar galon Iesu!"
Erbyn hyn, yr oedd y gynnulleidfa mewn teimladau tyner —a thoddedig iawn. Ni welid yno wyneb dyn, pa un bynag ai yn mysg y frawdoliaeth oedd yn cyfranogi, ai yn mysg yr edrychwyr, nad oedd eu llygaid fel ffynnonau o ddagrau! Eto, nid oedd yno ond hollol ddystawrwydd drwy y lle hyd yn hyn!
Wrth dori y bara, yr oedd yn dangos y tori a fu ar gorff glân y Gwaredwr, a'r rhwygo fu ar y llen, sef ei gnawd ef, yn hynod o effeithiol; ac wrth weddïo, yr oedd mewn gafael egniol iawn â'r orsedd am arwyddion neillduol o bresennoldeb Duw ar y pryd. Yna, aeth o amgylch gyda'r bara; ac yr oedd ei ymadroddion, bob brawddeg, yn hynod iawn o effeithiol yn disgyn ar deimladau y bobl. Yr oedd nifer y rhai oedd yn cyfranogi yn fawr, ac yr oedd yntau yn