yn ei ddangos fel un i ddyfod, ac y mae yr ordinhadau yn awr yn ei ddangos fel un wedi dyfod. 'Wele fi yn dyfod,' oedd ei iaith yn ngwaed yr aberth; ond 'Mi a ddaethym fel y caent fywyd,' yw ei iaith yn yr ordinhadau. Beth sydd genym i'w ddangos? Marwolaeth yr Arglwydd! Y gwaed hwn a wna gymmod dros yr enaid! Os bydd y ddeddf yn dyfod yn ei hysbrydolrwydd, ac yn gofyn perffeithrwydd, a ninnau yn teimlo ein bod yn euog, pa beth a wnawn? Dim ond dangos marwolaeth yr Arglwydd. Os bydd ein cydwybod yn ein condemnio, pa beth a wnawn? Cofio y testyn heno fydd yn ddigon. Os bydd y gelyn yn edliw dillad budron, pa beth a wnawn? Dim ond dangos marwolaeth yr Arglwydd! Cyfeiriwn ef at y rhai sydd ger bron yr orsedd, wedi dyfod allan o'r un cystudd mawr a ninnau, ac wedi golchi eu gynau, a'u cànu yn ngwaed yr Oen! Gwaed yr ammod sydd yn rhyddhau y carcharor o gadwynau pechod, o afael llygredigaeth, ac oddi wrth felldith y ddeddf. Y mae ein rhyddid ni wedi ei ennill mewn gwaed. Y mae y gwaed wedi ei daenellu ar lyfr y gyfraith, ac ar y bobl oll!"
Yr oedd yr olwg ar y dorf yn y fan hon yn dra rhyfedd. Yr oedd yr holl bobl wedi eu bedyddio â'u dagrau. Yr oedd aml un, yma a thraw, wedi tori allan i orfoledd cyhoedd. Aeth Elias yn mlaen i anerch y bobl, wedi dychwelyd at y bwrdd gyda'r gwpan ar ol gorphen y gwaith. Cyfeiriodd ei sylwadau at yr eglwys, ac at yr edrychwyr yn effeithiol dros ben:—" Onid yw yn fraint i ni fod y golofn goffadwriaethol hon wedi ei chodi yn ein byd? Pa hyd y mae hi i sefyll Hyd oni ddelo! Ni waeth pa faint o lid a fyddo gan ddiafol a'i alluoedd ati—pyrth uffern nis gorchfygant hi. Yn hon, dangosir i'r byd, er esampl i'r rhai a gredant rhag llaw, fod y ddeddf wedi ei hanrhydeddu, fod iawn dros bechodau wedi ei gael, a bod modd trwy ei rinwedd i godi yr euog i gymmeradwyaeth ger bron yr orsedd, a'i sancteiddio yn gymhwys o'i arddel ger bron gorseddfainc y nef. Y mae brenin Sion yn dewis i'w ddeiliaid ei gofio yn ei waed! Pan y byddo breninoedd y byd hwn yn ennill buddugoliaethau, bydd raid sylfaenu cofgolofnau mawrion, ac addurno eu pinaciau â delwau o bres i'w hanrhydeddu; ond dyma Iesu