chyflwyno iddo; ac felly, bu yn anffyddlawn i'w chenadaeth, a chuddiodd y sêl. Dydd ei ddienyddiad a ddaeth; ac yr oedd y frenines yn dysgwyl o hyd glywed ei fod wedi dangos y sêl, a'i fywyd wedi ei arbed: ond yn y gwrthwyneb y bu, a dienyddio y gŵr mawr a wnaed; ac yr oedd y newydd yn ofid calon i'r frenines. Aeth y Countess cyn hir yn wael o iechyd ac i afael angeu. Ni allai feddwl am farw, heb gael gweled y frenines, a rhyddhau ei meddwl i raddau oddi wrth ofid ei henaid drwy gyffesu fel y bu. Aeth y frenines i ymweled â hi ar ei chlaf wely. Dywedodd hithau wrthi yr holl hanes aeth y frenines i'r fath ofid a chynddaredd ati o blegid y tro, fel yr ysgytiodd y Countess yn ei gwely, gan ddyweyd, "Duw a faddeuo i ti: nid allaf fi faddeu i ti byth." Aeth adref, ac ni fynai ei chysuro; taflodd ei hun ar y llawr, ni chodai oddi ar y carpet, ni fynai nac ymborth nac ymgeledd; a bu farw yno yn mhen tua deng niwrnod! Yn awr, collodd hwnw ei fywyd, o blegid cuddio y sêl oddi wrtho; ond nid all un o honoch chwi ddywedyd hyny; nid oes yma neb yn cuddio y sêl oddi wrthych chwi; a dderbyniwch chwi y sêl am eich bywyd? Dyma hi i chwi yn awr; deryniwch hi; ewch at yr orsedd, ac y mae eich bywyd mor sicr i chwi a bod gwirionedd yn eiddo Duw! 'Pwy bynag a ddel, nis bwriaf ef allan ddim!"" Erbyn hyn yr oedd rhyw deimladau na anghofir mo honynt byth bythoedd wedi meddiannu mynwesau y dorf i gyd. Wedi gorphen y gwasanaeth, canwyd yno hen bennill ar hen fesur, gyda blas newydd; gan ddyblu a threblu yr un llinellau drosodd a throsodd, drachefn a thrachefn, am hir amser:
Daeth trwy
Fy Iesu glân a'i farwol glwy'
Fendithion fyrdd, daw eto fwy;
Mae ynddo faith ddiderfyn stôr,
Ni gawsom rai defnynau i lawr,
Beth am yr awr cawn fyn'd i'r môr?
Yr oedd nifer mawr yn eistedd wrth y bwrdd am y tro cyntaf y pryd hwn; a gwyddys i'r tro rhyfeddol fod yn foddion i ddwyn llawer oedd yno, wedi bod megys yn cloffi rhwng dau feddwl dros flyneddoedd meithion, i benderfynu yn y fan a'r pryd i blygu i Grist, a rhoddi eu hunain i'r Arglwydd, ac ymuno â'i eglwys byth mwy!