hysbysiaeth i adnabod amgylchiadau, llawer o ddoethineb i ragdrefnu y modd goreu i'w cyfarfod, a digon o wroldeb ac ymroad bob amser i'w gweithio allan i ymarferiad. Yr oedd weithiau, mae yn wir, yn agored i wresogrwydd teimladau pan y croesid ei gynlluniau, ond yr oedd ei brofiad wedi ei ddysgu i'w lywodraethu ei hun i raddau mawr. Yn gyffredin iawn, nid oedd gwrthwynebiad yn ddim amgen na chymhellai i'w dynu allan yn ei lawn nerth. Nid ydym yn haeru nad oedd efe, ar rai achlysuron, yn agored i redeg i eithafion, yn ei olygiadau duwinyddol, ac yn ei syniadau ar bynciau gwladwriaethol; ond nid oedd ef byth yn rhedeg cyn belled ag na oddefai i bawb eu lle a'u rhan, yn mhob dadl ac olrheiniad ar unrhyw gwestiwn a ddygid ger bron. Efallai na byddai yn ormod i ni addef ei fod wedi mabwysiadu mesurau go eirwon ar rai amgylchiadau; ond hyd yn oed yn y rhai hyny, trodd amser a phrofiad lawer gwaith i ffafrio yr hyn y dadleuai efe drosto, wedi yr holl ymdrafod i gyd.
Yr oedd gan Elias eiddigedd cryf yn ei fynwes dros yr hyn a alwai yr hen dduwinyddion yn athrawiaeth orthodox. Dyma y man lle y byddai ei gydoddefiad ef yn cael ei osod yn y brofedigaeth fwyaf tanllyd. Ystyriai ei hun dan rwymau cydwybod i rybuddio, os nid i geryddu, rhai dynion ieuainc yn lled lym, gyda golwg ar burdeb yr athrawiaeth, os deallid y byddent yn tueddu i wyro. Ystyriai mai y ffordd hono oedd y fwyaf gonest ac effeithiol i'w cadw o fewn terfynau cymmedroldeb. Gwelwyd enghraifft o hyn yn neillduol ynddo, pan unwaith yr edliwiai yn lled duchanol i rai eu bod yn fychain o ddynion i allu bathu eu counterfeits, heb gael benthyg moldiau y Seison i'w coinio." Cyrhaeddai ei wialen at y gwaed ac i'r byw y tro hwn. Ond wedi y cyfan, ni byddai am dori pen nac ysigo esgyrn neb. Tywalltai olew meddyginiaeth ar y briwiau yn fuan, fel y ceid eu hiachau cyn hir, ac y dygid y tramgwyddus i'w hoffi yn fwy nag erioed. Dygid pob un ar fyrder i gusanu y llaw a'i tarawai gydag ymostyngiad caredig. Anfynych iawn, os byth mewn dadl, y rhoddai efe ei hun yn nghyrhaedd magl ei wrthwynebydd i gael ei ddal. Os byth y dygid ef i gyfyngder, ac i orfod rhodio drwy lwybr lled gul er ei ddiogelu ei hun,