byddai yn sicr o daflu baich y prawf ar gefn ei wrthwynebydd, a hyny gyda'r esmwythder mwyaf parod a dirwystr. Er anghraifft, gellid cyfeirio at un amgylchiad neillduol fel eglurhâd ar hyn. Mewn cynnadledd cymdeithasfa unwaith, yr oedd cryn ddadl wedi codi yn nghylch rhywrai a dybid eu bod heb fod yn hollol iach yn y ffydd, ac yn tueddu i wyro at ryw syniadau nad oeddynt yn gwbl gydunol â synadau cyffredin yr enwad. Cyhuddid rhywrai o fod yn gwadu un o syniadau arbenig rhai o'r hen dduwinyddion uniawngred, a alwent y tri chyfrifiad: sef, cyfrifiad o bechod Adda i'w had; cyrifiad pechodau ei bobl ar Grist; a chyfrifiad cyfiawnder Crist i'r credadyn. Wedi gwneyd cryn nifer o sylwadau ar y pynciau a ystyrid yn uniawngred, ac ar y perygl o lithro oddi wrth y gwirionedd, cynnygid cerydd gan un, a chefnogid gan y llall; ac fel yr oedd y sylwadau yn myned rhagddynt, yr oedd y cwmwl yn ymddangos yn bur ddu uwch ben y rhai a gyhuddid. Pa fodd bynag, cyn i unrhyw ddedfryd gael ei chyhoeddi, nac i'r cerydd chwaith gael ei gweinyddu—yn yr hon yr ymddangosai Elias yn bur dwymfrydig—cododd un diacon o sir Fflint i fyny, a dechreuodd geisio troi y byrddau yn araf, a dywedodd ei fod ef yn lled ammheu cywirdeb yr hyn a ddygid yn erbyn y gwŷr y cyfeirid atynt, ac nad oedd pethau cynddrwg a'r darluniad. Cododd un arall drachefn, gan besychu bob yn ail â phob brawddeg; ond eto, yr oedd yn dyfod yn mlaen yn raddolyn gryfach gryfach o hyd—a dadleuodd yn rymus fod y lliwiau oedd wedi eu rhoddi ar yr achos yn rhy gryfion, ac nad oedd y cyfan mewn gwirionedd yn ddim amgen na gwahaniaeth mewn geiriau; nad oedd y cwbl ond gwahaniaeth mewn dull o ddywedyd yn y diwedd, a bod y sylwedd ar y cyfan bron yr un peth; a bod yn annheg dal ar eiriau, &c., nes yr oedd wedi effeithio yn fawr ar bawb; a throi y teimlad i redeg yn gyflym yn ei ol, ac i farnu nad oedd y cwbl fawr iawn o bwys yn y diwedd. Erbyn hyn, yr oedd y naill dòn ar ol y llall yn cael ei lluchio yn ol megys ar gefn Elias, fel yr ymddangosai yr hen gyfaill ar y pryd fel pe buasai yn nghymmydogaeth y niwl: ond, aroswch dipyn bach! Y mae ei dro yntau wedi dyfod. Dacw ef i fyny ar ei draed, a dywedai; "Dyma y tro cyntaf erioed i mi glywed
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/96
Prawfddarllenwyd y dudalen hon