eisieu gwybod rhywbeth am gyflwr cymdeithasol y genedl, i edrych a fyddai dim eisieu cynnyg gwellâd mewn rhywbeth bryd arall; byddai yn ddymunol gwybod rhywbeth am symmudiadau y cymdeithasau crefyddol, i ymwrandaw a fyddai dim angen cydweithrediad, ar brydiau ereill, Yr oedd gwyliadwriaeth ar foesau y wlad, ac ar bynciau cyhoeddus yr amseroedd, yn werthfawr bob amser, fel y gwybyddid a fyddai dim angen chwythu yn udgoru rhybudd; fel, os deuai y gelyn i mewn fel afon, y gallesid codi baner yn ei erbyn. Beth bynag fyddai y "gwirionedd presennol," yr oedd bob amser yn gwbl hysbys iddo ef; a byddai ei feddwl wedi bod yn myfyrio arno yn barod, a byddai ganddo ryw fesurau wedi eu cynllunio i'w cynnyg yn ei gylch. Yr oedd hyn, o angenrheidrwydd, yn ei wneyd ef yn brif ysgogydd yn mhob brawdoliaeth lle y byddai. Yr oedd efe mor gyflawn o feddyliau fel pan ofynid am i rywun roddi rhyw bwnc i lawr fel testyn ymddyddan, ac y clywid un yn dywedyd, "Nid oes dim neillduol ar fy meddwl i;" a'r llall yn dywedyd, "Nid oes dim o bwys ar fy meddwl innau;" a'r trydydd yn dywedyd, "Nid wyf finnau yn cofio am ddim arbenig yn awr;" ond pan y deuid ato ef, byddai ganddo ef "beth neillduol," a "pheth o bwys," a "pheth arbenig;" a hyny bob amser. Ni byddai raid i'r frawdoliaeth byth ymadael heb ryw sylw gwerth ei gofio a'i ddefnyddio, os byddai efe yn bresennol. Dywedir fod llawer brwydr wedi ei hennill yn fwy oddi ar ddoethineb cynlluniau y cadfridog, nag o herwydd dewrder milwrol y fyddin. Felly, nid oedd neb yn deall tactics cymdeithasol yn well nag ef, na neb â chanddo fwy o fedrusrwydd i'w dilyn a'u gweithio allan i brawf.
Yr oedd yn nodedig am ei gydoddefiad, a'i barch i deimladau pregethwyr bychain, oedd o ddoniau lled gyffredin, os byddai efe dan yr argraff fod yr amcan yn gywir ganddynt. Cafwyd esampl neillduol o hyn ynddo unwaith pan yn gwrandaw ar un tra byr ei ddawn a'i gyrhaeddiadau, ond o gymmeriad da, ar nos Sadwrn mewn ffermdy yn Môn. Yr oedd y gŵr bach wedi rhoddi ei gyhoeddiad i bregethu yno, a daeth Elias i'r lle ar ei ffordd am letty, ac heb wybod dim am y cyhoeddiad. Mynid iddo bregethu, ond ni wnai; yr