oedd yn bur barod i ddechreu yr oedfa. Wrth ymddyddan ychydig cyn dechreu y cyfarfod, deallai fod y pregethwr yn y brofedigaeth dros ei ben, wrth feddwl am ddal allan yn ei ŵydd. Gwnaeth bob cais i ymryddhau, ond ni allai lwyddo. Yr oedd Elias yn ymdeimlo yn bur ofidus o blegid pryder ei gyfaill. Pa fodd bynag, yn fuan, tynodd ymddyddan yn nghylch pregethu, a dangosodd beth mor ddibwys oedd medr i gyfansoddi yn gywrain, a dawn i draethu yn hyawdl mewn cymhariaeth â chywirdeb dyben yn y llefarwr. Bod llawer llai o wir ragoriaeth rhwng dynion o ran eu galluoedd nag yr oedd llawer yn ei feddwl. Bod esamplau mynych am ddynion cyffredin o ran doniau, eto dan lywodraeth ofn yr Arglwydd yn perswadio dynion, yn fwy llwyddiannus yn eu swydd na llawer o dalentau uchel, &c. Fel hyn, yn raddol, cododd feddwl y dynyn bach i fyny, fel yr ymwrolodd, ac y cafodd yr hwyl oreu erioed i bregethu ar y pryd.
Yr oedd yr holl fanteision yr oedd wedi eu hennill drwy brofiad ac ymarferiad yn mhlith ei frodyr wedi ei ddyrchafu i sefyllfa o dderbyniad a chymmeradwyaeth uchel iawn yn mhlith ei frodyr fel cynghorwr, yn gystal ag fel pregethwr ac areithiwr. Yr oedd ei ddefnyddioldeb neillduol yn cyfateb i'w ddefnyddioldeb cyhoeddus; ac y mae yn rhaid fod y diffyg ar ei ol, yn y naill gymmeriad a'r llall, yn cael ei deimlo yn fawr. Fel hyn y mae "Arglwydd y lluoedd," pan y myno, yn tynu "ymaith o Ierusalem ac o Iudah, y cynnaliaeth a'r ffon...y cadarn,...y brawdwr, a'r prophwyd, y synwyrol, a'r henwr, y tywysog deg a deugain, a'r anrhydeddus, a'r cynghorwr,...a'r areithiwr hyawdl"! Ond er ei golli ef yn bersonol, ni anghofir mo'i gynghorion na'i areithiau tra y byddo pregethu yn ein hiaith!
"Haws troi môr a storm eira
Yn eu hol yn dawel ha',
Na chladdu uchel haeddiant
Mewn anghof, yn ogof nant!"