Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/10

Gwirwyd y dudalen hon

ganolraddol; ac ambell i floedd wan am Reolaeth Gartrefol. Ar y pethau hyn yr wyf yn cutuno, i raddau o leiaf, ar diwygwyr cyffredin. Ond wedi cael yr holl bethau hyn i ymarferiad, yr ymholiad pwysig ydywfaint gwell allan fydd corph y genedl, nag ydyw yn bresenol? Wrth ymdrin ar pwnc hwn rhaid cofio o hyd mai gweithwyr tlawd sydd yn gwneud i fynu gorph y bobl. Wedi cael y diwygiadau, y ceisir am danynt, ac yr ydym yn rhwym o'u cael, faint cyfoethocach fydd y chwarelwyr, glowyr, crefftwyr, a gweision a morwynion yr amaethwyr? Fydd oriau eu llafur yn llai? eu gwaith yn ysgafnach? eu cyflogau yn uwch? eu hymborth yn well ac yn helaethach? eu gwisgoedd yn well? eu tai yn well? A moddion mwyniant a dedwyddwch yn fwy cyraeddadwy iddynt? Yr wyf yn ateb yn ddibetrusdim, os yw y diwygiadau i derfynu gyda y rhai hyn. Yn yr Iwerddon, mae yr Eglwys wedi ei dadgysylltu ai dadwaddoli ar degwm weidi ei ddiddymu a deddfau y tir wedi eu diwygio, ond y mae y tlodion yno mor dlawd ac mor luosog ag erioed. Y gwirionedd yw, nid oes un diwygiad a wna les gwirioneddol a pharaol i gorph y bobl heb aildrefnu cymdeithas o'i gwraidd i fynu. Yn y fan yma y mae dechreuad y gwahaniaeth rhwng y cymdeithaswyr a'r diwygwyr cyffredin. Os edrychir ar gymdeithas fel pren a rhai o'i ganghenau yn dwyn ffrwythau gwenwynig a marwol—mae y diwygwyr cyffredin yn meddwl fod tocio tipyn a thori ambell i ganghen ymaith, yn gymaint o ddiwygiad ac sydd eisiau: ond y mae y cymdeithaswyr yn haeru fod y pren mor ddrwg a'i ffrwythau mor wenwynig nad ellir byth ei wella ac y rhaid ei dynu ymaith o'r gwraidd a phlanu pren byw a iach yn ei le. Os edrychir ar gymdeithas fel adeilad—mae y diwygwyr cyffredin yn meddwl fod adgyweirio yr adeilad yn ddigon; ond y mae y cymdeithaswyr yn credu ac yn haeru fod yr adeilad yn rhy gregin i'w hadgyweirio, ac y rhaid adeiladu adeilad newydd cyn y gellir diwallu