Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/11

Gwirwyd y dudalen hon

angenrheidiau yr oes bresenol. Wnaiff trwsio cymdeithas mor tro—rhaid ei chreu o newydd cyn byth y gwelir trefn arni. Ond a ellir aildrefnu cymdeithas? os gellir, pa fodd? Mae yr ateb yn barod—gellir. Yn gyntaf drwy genedleiddio y tir a'i holl drysorau, y bobl bia y tir a'r holl drysorau yn y tir. Drwy ysbail a gorthrwm y dygwyd ef oddiarnynt. Eiddo lladrad ydyw y tir lle bynag y mae yn eiddo personol i unrhyw unigolyn. Nid oedd gan neb hawl ond hawl yr ysbeiliwr i'w gymeryd na'i werthu na'i brynu. Etifeddiaeth y bobl ydyw y tir, ac i drysorfa y bobl y dylai y rhenti fyned. Wedi cael y rhent i drysorfa y wlad yn lle i logellau unigolion, gellid diddymu pob treth—yr hyn a fyddai yn elw uniongyrchol oddiwrth y tir i bob person yn y wlad.

Yn ail, drwy genedleiddio gweithiau, peirianau, ac offerynau gwaith. Gwneler y chwarelau, y gweithydd glo, y llaw weithfeydd, a holl offerynau gwaith yn eiddo y cyfundeb neu y wladwriaeth, yn lle personau unigol.

Ac yn drydydd drwy genedleiddio yr elw oddiwrth drafnidaeth, ac yn enwedig yr elw dirfawr sydd yn tarddu oddiwith luosogiad y boblogaeth, yr hwn elw sydd yn awr yn myned i logellau personau unigol, a hyny yn hollol anghyfiawn. Mae hyn yn cael ei wneud yn barod yn y llythyrdy a'r pellebyr. Mae yn cael ei wneud yn Manchester yn y gwaith dwfr a nwy, ac mae yn eithaf possibl gwneud yr un peth a gweithfeydd yr holl wlad.

Ond yn bedwaredd, drwy ddarparu cartref rhydd a sior i bob teulu yn y wlad—cartef o'r hwn nad ellid troi yr un teulu allan byth yn erbyn eu hewyllys.

Ac yn olaf ar hyn o bryd, drwy wneud addysg yn rhad, rhydd a chenedlaethol, nid addysg uchel—raddol, ganol—raddol, ac isel—raddol, oblegid yn y byd newydd fydd dim ond un radd, y bobl; ond yr addysg oreu all y byd ei roddi i'r trigolioni i gyd.

O dan y drefn newydd o gymdeithas, fe fydd miloedd