Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/15

Gwirwyd y dudalen hon

Undeb a dysgyblaeth milwyr Rhufain a'u galluogodd i orchfygu y byd. Drwy undeb y mae y cyfoethogion wedi cael meddiant o'r tir a'i drysorau. Drwy undeb y maent yn cadw y lluaws di-drefn mewn caethiwed ac yn eu hysbeilio o ffrwyth eu llafur. A diffyg undeb, trefn, a dysgyblaeth, ydyw yr unig achos gwirioneddol fod y bobl yn gorfod byw yn y fath drueni. Sefydler cyngrair y gweithwyr. Ofer ydyw disgwyl i'r uchel radd a'r canol radd, gychwyn na chefnogi, unrhyw symudiad a fydd o les gwirioneddol a pharaol i'r gweithwyr. Rhaid i'r gweithwyr gymeryd eu hachos eu hunain o dan eu gofal eu hunain, neu fod byth yn gaethweision fel ag y maent yn awr. Rhaid iddynt gael dynion o'u plith eu hunain i'w cynrychioli yn y cynghorau ac yn y senedd. Mae yn anmhosibl i gyfreithwyr ac arglwyddi tir a'r cyffelyb, wneud cyfiawnder a'r bobl, pe ceisent. Mae eu hunan les ar eu ffordd. Ac y mae hunan les yn sicr o gadw yr uchel radd yn rhengau gelynion y bobl. Ond ni ddylai hyny ddigaloni neb. Unwaith y daw y bobl yn ymwybodol o'u nerth-unwaith y codant ar eu traed, ac y safant i fynu ysgwydd wrth ysgwydd, llaw mewn llaw, fel un gwr, mewn undeb a'u gilydd, fe fyddant mewn ystyr gymdeithasol, yn hollalluog, ac nid oes dim ac sydd yn bosibl nad allant ei feddianu.