Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/23

Gwirwyd y dudalen hon

canlyniad, wedi pasio canol oed, gorfodwyd ef, mewn ystyr, i ail ddechreu byw; a bywyd o ymdrech ydyw wedi bod byth ar ol hyny.

Nid R. J. Derfel yw y Cymro cyntaf archollwyd gan anniolchgarwch ei gydgenedl. Gwaedodd llawer calon oherwydd y gwendid cenedlaethol hwn. Gallasem enwi aml un; ond ymataliwn. Fel mater o ffaith nid ydyw gwladgarwch pur a hunanaberthol wedi "talu" yn y byd hwn. Credwyf na wna ychwaith. Mewn ystyr fydol nis gall. Ond nid ffrwyth tal ydyw gwladgarwyr. Cariad, greddf, cydymdeimlad trwyadl a'r gormesedig, ac atgasedd llwyr tuag at y gorthrymwyr, yn unig a'u cynyrchant. Eu taledigaeth ydyw—teimlo eu bod wedi cyflawni eu dyledswydd tuag at eu gwiad.

Nid yw R. J. Derfel yn beio neb am y methiant a'i cyfarfyddodd—ond eidddyf iddo dderbyn briw nad yw wedi gwella hyd y dydd bwn. Mawra chwerw oedd ei siomedigaeth; yn lle ychwaneg o hamdden, cafodd lai! Diflanodd barddoniaeth! Ac erbyn hyn mae gofalon y byd a phryder masnachol wedi agos a llethu bob yni meddyliol. Feallai nad oes neb i'w feio ond efe ei hun; oblegid yr oedd wedi meddwi ar wladgarwoh a chenedlgarwch! Dallwyd ef i oleuni synwyr cyffredin! Ond os dallwyd ef — mae mewn cwmpeini gwir anrhydeddus! Perthyn goreuon y ddaear i'r dosbarth dall anfarwol hwn! Bid a fyno am hyny, tywyllodd y methiant a'i cyfarfyddodd fwy nag ugain mlynedd o'i oes. Aoc mewn canlyniad chwilfriwyd llawer o gynlluniau a gobeithion disglaer.

Yn y blynyddoedd tywyll hyn ychydig iawn a gyfansoddodd— a'r ychydig hyny gan mwyaf yn Saesneg. Flynyddoedd yn ol, cyhoeddodd gyfrol fechan yn dwyn yr enw "Hymns and Songs for the Church of Man" gan "Munullog." Ymddangosodd adolygiadau ffafriol arni mewn llawer o'r prif newyddiaduron Saesneg. Arwain y gyfrol hon ni yn naturiol at y cyfnewidiad mawr mewn golygiadau duwinyddol a gymerodd le yn meddwl y bardd. Yn barod i'r wasg, yr oedd ganddo gyfrol o bregethau Cymraeg. Bwriadai eu cyhoeddi yn llyfr gwerth 3s 6c. Derbynissai enwau tanysgrifwyr am dros 600 o gopiau. Ond cyn eu rhoddi yn nwylaw yr argraffydd, daeth cyfnewidiad mawr ar olygiadau yr awdwr ar lawer o'r pynciau y traethid arnynt yn y