pregethau. Ac oherwydd hyny ni chyhoeddwyd y gyfrol byth. Ond gan nad amcan yr ysgrifau hyn ydyw croniclo pethau o'r fath, ni ymahelaethwn ar y pen hwn.
Hefyd, rhaid gadael allan hanes y pregethu, y darlithio, a'u cysylltiadau hyd ryw adeg fwy cyfleus. Ond, gellir dweud i R. J. Derfel weithredu fel pregethwr poblogaidd gyda y Bedyddwyr am flynyddoedd lawer. Traddododd ddarlithiau hyawdl ar hyd a lled y wlad.
Yn ei holl lafur—fel bardd, traethodwr, darlithydd, a masnachydd—un meddwl ac amcan oedd ganddo, sef yw hyny, deffro y Cymry i deimlo ei cenedlaetholdeb.
Yr oedd yn ddig wrth ei genedl am ei bod mor wasaidd a llwfr. Mynai i bob Cymro a Chymraes ddal eu penau i fyny—fel Cymry. Cenfydd y cyfarwydd yn ei weithiau—rhyw ddeuddeg o gyfrolau mewn nifer—fod agos yr oll o honynt yn dwyn cysylltiad arbenig a'r un drychfeddwl hwn. Drych cywir o deimladau a golygiadau R. J. Derfel ydyw ei weithiau. Cymro, Cymru, a Chymraeg— dyna ei Alpha a'i Omega.
Yn awr, fel cynt, carai R. J. Derfel i'r Cymry honi eu cenedlaetholdeb. Dyry y deffroad cenedlaethol presenol brawfion diymwad fod y Cymry yn honi eu cenedlaetholdeb! Galwant yn uchel—a y llais yn gryfach ac yn fwy cyffredinol—am Ymreolaeth. Na laeser dwylaw hyd oni orchfyger y trahausder tramorol. Dadleua R. J. Derfel yn wresog am gyfundrefn addysgawl i Gymru, fel na byddo raid i Gymro byth ostwng pen na gwrido, oblegid anfanteision ei wlad yn y pethau hyn. Effro ydyw Cymru ar y mater hwn eto. Peth da, yn meddwl R. J. Derfel, fyddai cael un iaith a ddeallid gan bawb o bobl y byd. Hyd nes y ceir hono, Saesneg yn ddiau yw yr iaith fwyaf angenrheidiol i'w dysgu o'r boll ieithoedd tramorol. Ond na esgeuluser, na ddirmyger yr iaith Gymraeg. Dyledswydd pob Cymro a Chymraes ydyw gofalu fod eu plant yn medru yr hen iaith. Yn ddilys ddiameu, carnfradwr ydyw y neb a ddirmygo ac a esgeuluso iaith ei wlad.
Mae amryw, yn ddiweddar, wedi ysgrifenu ato i ddyweud eu bod hwy yn priodoli eu deffroad cenedlaethol i ddarllen gweithiau R. J. Derfel. Dyma ran o dal y gwir wladgarwr: cael ei gyd-