IV.
Yn mhell dros y tonau mae gwlad fach ryfeddol,
Pe chwilid fy nghalon ceid ynddi ei llun;
Nid byth y crybwyllir am wlad nag y cyfyd
Yn swynol i'm golwg fy ngwlad fach fy hun;
Mae'n llawn o fan gymoedd a bryniau a nentydd
A myrdd o fan gaeau fel gerddi i mi;
Os sonir am hiraeth, y wlad hon ymddengys
O flaen fy serch clwyfus—fy mamwlad yw hi!
Yn mhell dros y tonau, rhwng bryniau mae'm cartref,
Pe chwilid fy nghalon ceid ynddi ei lun;
Er teithio y gwledydd, a gweled pob gwychder
Hen gartre'r cartrefi yw'm cartref fy hun;
Pan fo hi yn heulwen mi gwelaf e'n ddysglaer
Ar lechwedd oleulwys yn ngwyneb y ne';
Ni sonir am gartref na saif hwn i fyny
I'm serch yn hudoliaeth, yn benlle pob lle!
Yn mhell dros y tonau mae swynion rhamantus
Agorant fy mron fel ag allwedd, bob un;
A chlywaf yr awel yn murmur hen donau
Yn fiwsig-adgofion o'm mamwlad fy hun;
Os sonir am Wynfa, yn gyntaf i Gymru
Yr hed draw fy meddwl, can's coelio wyf fi
Na fydd yr un nefol ond Cymru o newydd
A Chymru'n y nefoedd fydd Gwynfa i mi!