Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awen ryfedd hon o dref Mynwy. Ar ei ymddangosiad cyntaf, croesawyd yr hanes gyda chymeradwyaeth gyffredinol gan y dysgedig yn ogystal a'r anwybodus. Ni ameuai neb nad oedd ei holl gynwys mor wir a'r efengyl. Defnyddid darnau o hono gan y Brenin Edward I. mewn dadl a'r Pab Bonifas yr Wythfed. Yr oedd ei hynafiaeth yn drech na phob anghrediniaeth. Yr oedd gair y gwr duwiol yn ddigon o sicrwydd ei fod yn wir a dim ond y gwir. Ar hyd yr oesau amddiffynid yr hanes gan yr ysgolheigion blaenaf; ac os yr ymgeisid i'w wadu gan Sais, priodolid hyny yn ddioed i'w ragfarn at y Cymry!

VIII.

Tebyg na phenderfynir fyth mo'r pwnc pa un a'i cyfieithiad a'i cyfansoddiad gwreiddiol o eiddo Sieffry oedd ei Historia Britonum. Dywed yr hanes i ddyn o'r enw Gwallter Mapes, archddeon Rhydychain, ddyfod o hyd i'r ysgrifau gwreiddiol mewn llyfrfa yn Llydaw, yn y Frythonaeg, ac vn dwyn arwyddion o hynafiaeth mawr. Dygodd hwy gydag ef i Loegr, ac wedi chwilio allan am rywrai hyddysg yn yr iaith Brydeinig, dygwyddodd iddo ymdaro wrth Sieffry, gwr hynod o hyddysg yn hynafiaeth a hanes Prydain, gwybodus yn iaith y Brython, ac ysgrifenwr prydferth mewn odl ac hebddi.