Felly y mae cryn sail i'r gred i'r Cymro ddyfeisio ei hanes hynafol i gael y goreu ar awduron gwledydd eraill.
X.
Ond waeth yn y byd am wirionedd yr hanes, y mae y rhamant sydd yn elfen mor brydferth a gogoneddus yn ei gwneyd yn fwy swynol na hanes. Y mae rhoi tro drwy hen lenyddiaeth chwedlonol y Cymry yn fwyniant ac adeiladaeth. Y mae yn llawn o'r dychymygion mwyaf cywrain a'r meddylddrychau mwyaf hudoliaethus. Y mae ynddi ddefnyddiau i'r beirdd am oesau y ddaear; a'r syndod penaf yw i'r awen Gymreig wneyd cyn lleied o'r trysor anferth hwn sydd mor hylaw ganddi.
XI.
Y mae y Cymry wedi bod mor ddisylw o'u hadnoddau awenawl ag o'u trysorau daearol. Y mae eu trysorau rhamantus wedi myned yn eiddo y Saeson, fel yr aeth eu tir, eu mwn, eu glo a'u pethau gwerthfawr eraill. Ymddengys y Cymry yn foddlon ar y dychymyg fod pethau yn eiddo iddynt heb y boddlonrwydd ymarferol o'u meddianu yn wirioneddol a sylweddol. Cenedloedd eraill sydd yn dadblygu eu trysorau awenawl a rhamantus, fel y dadblygant eu hadnoddau daearol a thanddaearol. Y mae eis-