ieu i'r Cymry feddianu eu gwlad, yn dir, mor, dwfr, awyr ac awen yn drwyadl ac i ddybenion ymarferol a gwareiddiol.
XII.
Dywedir i William Williams, Llandegai, fod yn foddion i gael yr Arglwydd Penrhyn i gymeryd at y gwaith o ddadblygu cyfoeth enfawr chwarel Cae Braich y Cefn. Yn flaenorol i hyny, ceid ychydig Gymry (yn ol yr hanes) fel nifer o ieir yn crafu mewn tyllau beision ar lechwedd y Fronwen. Onid yw hyny yn arddangosiad, hefyd, o'r modd yr esgeulusodd eu llenorion a'u beirdd drysorau rhamantus eu llenyddiaeth henafol gan fyned i grafu tomenau cystadleuaeth Eisteddfodol a chynyrchu dim gwerth i gyhoeddi ar hyd y blynyddau? Onid ydym fel pobl wedi colli ysbrydoliaeth ac awen ramantus ein cyndadau? Onid ydyw ein hawdlau a'n pryddestau a'n cynyrchion rhigymedig a chynganeddol wedi ymddirywio i ddim nemawr gwell na chyffredinedd blin a diddyddordeb? Yr ydym wedi myned fel cynifer o ieir rhigymol i grafu tyllau beision yn lle treiddio a chloddio i fewn i drysorau dihysbydd ein rhamantau Cymreig. Y mae gogoniant yr awen wedi myned o'n gafael gan adael dim ar ol ond teml wag a defodau diamcan a diystyr!