phethau eraill nis gellir eu cael i ymgyraedd atynt o gwbl. Ni charant y pethau mwyaf buddiol iddynt eu hunain bob amser, ond ymgyndynant wrth bob peth a hoffant. Rhyw Sais a ddyfeisiodd y chwedl a ganlyn i arddangos hoffder cyndyn y Cymry o gaws pob, yr hon a roddir genym ar gan yn y Gymraeg am y tro cyntaf:
XIV.
Mae'n scrifenedig mewn hen frut
Pa bryd rhoid Pedar a pha sut
Yn wyliwr ar glaer borth v nef,
A'r drafferth flin a gafodd ef
Gan rai anhywaith adodd Duw
Ryw fodd o'i dostur yno i fyw.
Ac yn eu plith fe ddaeth yn lli
Rhyw haid o Gymry gwael eu bri,
Y rhai ymdyrent i'r un fan
A'u cyson dwrdd fel melin ban,
Gan flino eraill yn ddi nag
A'u bregliach a'u bragaldiach gwag.
Bob un yn siarad fel o'i go.
Y naill a'i "fe" a'r llall a'i "fo;"
Bob un yn tyrfu am ei blaid
Yn gyndyn dros ei enwad gaid;
Cystadlu, dadlu a pheth na
Hyd ddrygu'r nef ei hun a'u pla;
Hyd nes i'r Arglwydd deimlo'n flin
Eu gado idd ei wlad ei hun.