iaith Gymraeg y rhoddwyd yr addewid gyntaf i Efa." "Gwahanol dafodieithoedd o'r Gymraeg (yr Omeraeg) yw yr holl ieithoedd o'r Sanscrit fawr hyd y Wyddelaeg fach." "Y Gymraeg yw gwreidd-fam holl ieithoedd y ddaear." Y mae y ddawn ramantus hon felly wedi niweidio y Cymro drwy droi ei feddwl i ymhyfrydu yn y gorphenol pell yn lle yn y presenol a'r dyfodol agos; yn ogystal a'i wneyd i or ganmol ei genedl ei hun.
XVII.
Gwelir hyn yn amlwg yn y llinellau a ganlyn o eiddo y bardd Cymreig:
A fu erioed o fawr rym
Neb o golofn Ab Gwilym?
Na, fu'r un o'u nifer hwy
Werth rhawnen wrth Oronwy.
Heriaf Homer a Horas,
Ni bu a'i trech neb o'u tras!
Edmygwr dirfawr o henafiaeth y Cymry oedd Iolo Forganwg. Ryw dro aeth i Lundain i alw ar ryw foneddwr uchel, ac wedi cyraedd y ddor, daeth y trulliad i ateb y curiad, ac yn gweled rhyw daiogyn wrth yr agoriad, hysbysodd hyny i'r boneddwr, yr hwn a ddaeth at y drws gyda fflangell gan fwriadu ei chymwyso at y dyeithrddyn, ond ebe Iolo:
Strike a Welshman, if you dare,
Ancient Britons as we are;
We were men of great renown
Ere a Saxon wore a crown.