XVIII.
Y mae yr henafiaeth ddysglaer hon o luniad y dychymyg rhamantus Cymreig wedi niweidio y Cymro yn ddirfawr drwy daflu ei feddwl i'r gorphenol pell i ymfoddloni ar fawredd tybiedig ei gyndeidiau yn lle ymroi ei hun i adeiladu iddo ei hun fawredd a chlod cyfamserol. Y mae plant tadau cyfoethog yn fynych yn troi allan yn ddiffrwyth, am yr ymorphwysant ar olud y teulu. "Y mae genym ni Abraham yn dad i ni," ebe yr Iuddew; a'r un modd y dywedai y Cymry "Y mae genym ni Gomer, a Noah, ac Adda yn dadau i ni,” ac ymfoddlonent ar hyny.
XIX
Ond os mai drwg llenyddiaeth ramantus y Cymry fu troi eu meddwl yn ol i fawrhau ac ymffrostio yn eu henafiaeth aruthrol o ddysglaer, canlyniad y Diwygiad crefyddol gant a haner o flynyddau yn ol fu taflu y meddwl Cymreig yn ormodol i'r dyfodol pell. Aeth y Cymry dan ddylanwad y llenyddiaeth dduwinyddol i efrydu y byd y tu draw i'r bedd, fel ag i ebargofi y presenol gwerthfawr yn nghyd a'i ddyledswyddau amrywiol a phwysig. Hyd yn ddiweddar, o ddyddiau Rowlands, Llangeitho, a Hywel Harris, pregethu ac efrydu duwinyddiaeth oedd prif ddifyrwch y Cymry. Ni chym-