Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXI.

Y mae pobl hiraethant ar ol y gorphenol pell, ddysgwyliant am y dyfodol trawsangeuol yn anghymwys i hyrwyddo eu gwareiddiad yn y fuchedd sydd yr awrhon. Y mae y bobl ofalant am y presenol yn gymwysach i ofalu am y dyfodol na'r rhai freuddwydiant o bell am y dyfodol. Profir hyn gan y cenedloedd ymarferol o'u cyferbynu a'r cenedloedd rhamantus. Y mae graddau o ramant yn yr ysbryd yn fuddiol ac anhebgorol, ond y mae gormod yn ddinystr ac yn wenwyn. Cynyrcha y naill wareiddiad; arweinia y llall i oferedd meddwl a moes. Y mae y rhamantwr fel y Pabydd a'i wyneb tua'r gorphenol a'i gefn ar y dyfodol. Y mae y rhamantwr gan mwyaf yn dueddol i lithro yn ol i ofergoeliaeth ac aros gyda phethau y gorphenol. Y mae y rhai hyn am godi pethau yn eu hol o hyd. Yn y gorphenol, gwelant baradwys, er mai y ffaith yw mai i ddyfod y mae yr Oes Euraidd. Dyma amryfusedd penaf y rhamantwyr, gosodant baradwys yn yr amser aeth heibio yn lle yn yr amser i ddyfod. Edrychant am y ffrwyth yn y gwraidd, yn lle yn y brig. Fel Wilhelm Meister crwydra y rhamantwr gyda nod, eithr heb wybodaeth o'r lle y mae na chynllun i'w chyraedd. Pan y mae y wawr ar dori y mae y rhamantwr a'i gefn