wydd ei anwadalwch. "Puir lustful Reubens that they are, unstable as water"-"ansafadwy fel dwfr; ni ragorant." Y mae anwadalwch neu ddiamcanrwydd yn gyfartal a diffyg gallu. Y mae rhamantusrwydd y meddwl Celtaidd yn achos ei wendidau. Un o'i wendidau yw ei duedd i droi ymaith oddiwrth ffeithiau profiad. Car ymgrwydro ymaith i fyd y dychymyg yn mhell o frwydr y byd a'r fuchedd bresenol. Ebe y meddwl rhamantus o hyd "Rhowch i mi bethau anymarferol y darfelydd, pethau gwlad hud a lledrith; pethau anghymwys i'r bywyd presenol." Afradlon yw y meddwl rhamantus, ac ni fydd o fudd hyd y dychwelo i ymafael a'r ymarferol. Nid diffyg gallu a dawn yw diffyg y Celt, ond diffyg gwerthfawrogiad o'i amgylchoedd.
XXV.
Hyd yn ddiweddar y mae y Cymro wedi dangos mwy o'r diffyg hwn na'i frodyr, yr Ysgotyn a'r Gwyddel. Oni freuddwydiodd y Cymro ei fywyd ymaith drwy yr oesau, gan fawrhau ac ymhyfrydu yn ei feddyliau ei hun, gan dybio nad oedd eu gwell i'w cael? Drwy yr oesau bu a'i fryd arno ei hun a'i ragoriaeth dybiedig yn lle ymgydnabyddu a rhagoriaethau gwareiddiad a'u mabwysiadu a'u gwneyd yn eiddo iddo ei hun. Ymfoddlonodd ar ddychymygu rhes o