Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

moel a gwyr arfog a gwaywffyn a tharian a chleddyf."

XXIX.

Onid hawdd yw casglu oddiwrth y ffeithiau uchod fod y Cymry yn feddianol ar wroldeb ac athrylith, ond eu bod yn ddiystyr o'u gwerth wedi eu diwyllio; eu bod yn ymfoddloni ar gyneddfau naturiol ac yn ddifater o effeithiolrwydd offer ac arfau sydd yn rhoi uwchafiaeth i bobl israddol.

XXX.

Ar hyd yr oesau cawn hwy yn llawn arwriaeth ddiamcan. Owen Glyndwr yw yr unig arwr Cymreig a ymddengys gymerai ddyddordeb mewn addysg a gwareiddiad. Ni ymddengys fod y beirdd yn feddianol ar nod uchel diwylliant a gwareiddiad. Gwarient eu hamser yn canu clodydd arwyr a rhyfelwyr, ac ambell i un yn canu mwynderau serch; ac ymddengys fod y Cymry hyd yn ddiweddar yn feddianol ar yr un meddylnodau. Sylwer ar ein can genedlaethol, yr hon gynwysa ddesgrifiad cryno o'n gwareiddiad drwy yr oesau:

Mae hen wlad fy nhadau yn anwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol rhyfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Dros ryddid collasant eu gwa'd.

Wrth wladgarwyr y golygir rhai garasant eu