oes genym ond gobeithio ein bod fel cenedl ar ddychwelyd o'n crwydriadau yn ngwlad hud a lledrith, ac y deuwn ar frys i weled gwerth profiad eang, dwfn ac amrywiol o'r bywyd sydd yr awrhon. Fel y dywed awdwr Ffrengig yn ei draethawd ar Ragfarnau: "Unwaith y crwydra yr ysbryd dynol, mae yn fynych yn hir yn dychwelyd o'i grwydriadau."
XXXII.
Gwelir yn hanes y Cymry yr ansoddau meddyliol ac ysbrydol hyny nodweddant y cymeriad rhamantus, sef y duedd i edrych yn ol gan fawrygu ac edmygu y gorphenol; i hiraethu ar ol yr amser gynt, gan foli a fu, yn hytrach na dyheu am ac ymestyn at a fydd. Dangosir y cyflwr meddwl hwn gan yr ymadrodd hwnw a glywir mor fynych, sef "codi Cymru yn ei hol." Dyna ddymuniad a dyhead y meddwl rhamantus, sef troi yn ol i'r gorphenol lle mae pob mawredd a dedwyddwch, can ac awen. Mae yn y pegwn cyferbyniol i'r ymarferol sydd a'i lygad ar y presenol a'r dyfodol. Onid hyn sydd yn cyfrif fod goludoedd sylweddol a thymorol Cymru yn ngafaelion estroniaid? I'r Cymro rhamantus gwlad beirdd a chantorion a gwladgarwyr tra mad yw Cymru; tra i'r Sais, yr Ysgotyn, yr Ellmynwr a'r Iuddew, y mae yn wlad oludog o lo, haiarn, dur, alcan, llechau, &c.