Er fod y Cymro yn weithiwr rhagorol, yn lowr, gweithiwr haiarn a dur ac alcan, yn forwr ac amaethwr a phob crefftwr arall, eto rhamantus o fryd yw, gyda thueddfryd gref at ganu, awenu, pregethu a dychymygu. Y mae ei awyddfryd yn fwy am y dychymygol na'r ymarferol. Ai nid athrylith anymarferol ddiamcan (ein vacierendes Genie), fel eiddo arwr Eichendorff, yn ei chwedl ramantus, fu athrylith Cymru ar hyd yr oesau; ac ai nid y ffordd i gael Cymru i'r blaen fydd iddi gael ei nod o'i blaen yn lle o'i hol?
XXXIII.
Tueddir ni i gredu fod llawer o wir yn yr hen ymadrodd Lladin, "Scire Anglis sitis est; sitis est nescire Britannis," sef fod awydd y Sais i ddysgu, ac awydd y Brython i annysgu neu esgeuluso dysgu. Cefnogir y dywediad hwn gan gyflwr y Cymry ar hyd yr oesau yn nglyn a gwybodaeth a dysg fuddiol, ond ymddengys hyn i'w briodoli i dywysogion ac arweinwyr Cymru, oblegid yn awr ceir addysg yn blaguro a'r bobl yn ei werthfawrogi. Mawrion gwael sydd yn Nghymru. Ar hyd yr oesau yr oedd gan ein pobl ni ddigon o athrylith, ond nid oedd yn y wlad ysgolion na chyfleusderau i'w dadblygu. Ein beirdd oedd ein hunig ysgolheigion a llenorion, ac ni chynyrchai y rhai