hyny ddim ond barddoniaeth; y mae genym heddyw ddigon os nid gormod o dalentau, ond rhy fach eto o gymellion i ymberffeithio ynddynt. Y mae genym fyrddiwn o brydyddion, ond neb i ymgystadlu a Shakespeare, Milton, Byron, Browning, &c. Y mae pawb eisieu bod yn rhywbeth, yn lle ymuno fel pobl i ddarparu trefn a chymorth i fechgyn mwyaf athrylithgar ein cenedl fyned yn uchel iawn. Diogel genym gyda threfn addysg bresenol a dyfodol Cymru y daw athrylith werthfawr ei phlant i sylw y byd. "Y fath fantais fyddai i'r bobl," ebai un am ei wlad, "pe y gadawent heibio ddawnsio!" Y fath les fyddai i'r Cymry, hefyd, pe y gadawent heibio rai o'u hoffderau ac y troent eu holl awyddfryd a'u holl athrylith o ddifrif i fod yn uwchraddol mewn cerdd, awen, celf, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, adeiladwaith, masnach, &c.! Nid oes ond ychydig o hyn yn ein hanes o adeg ein huniad a Lloegr hyd heddyw. Y mae genym ddigon o ganu, barddoni a phregethu, ond yr ydym mewn angen difrifol o'r pethau eraill defnyddiol a diwylliol a enwyd uchod. Nis gallwn fod hebddynt, os am fod yn gyfochrog a chenedloedd eraill. Mae trefn addysg Cymru yn addaw yn ddirfawr; mae y wawr wedi tori ar y Dywysogaeth; mae y dyfodol yn ddysglaer!