AM DRO I ERSTALWM.
I.
Mae lle i goelio mai cynyrch ysbryd Barddas yw ein hawliad o uwchafiaeth a henafiaeth aruthrol y Cymry. Ni ein hunain gred yr ymhoniad hwn; ac felly nid rhyfedd i bobl eraill wawdio a gwatwar ein hymffrost. Beth a gynyrfodd y beirdd i goelio coel o'r fath oddigerth eu balchder a'u rhodresgarwch? Nid oes sail o gwbl i uwchafiaeth na henafiaeth ein cenedl, fwy na ryw genedl arall.
II.
Yn yr amser gynt, ni choeliai y Cymry y pethau hyn; nid oes son yn eu hen lenyddiaeth am danynt; ac wedi dyfodiad gwybodaeth glasurol a'r Ysgrythyrau yn adnabyddus yn y canrifoedd diweddaf, y dechreuodd y beirdd a'r llenorion Cymreig lunio ac adeiladu y gyfundrefn hygoelus.
III.
Fel y dywed Myfyr Morganwg yn ei "Henafiaeth y Delyn:" "Yn nghyfrinion Barddas yr ydym yn cael golwg ar yr holl syniadau a'r