VII.
Teithia hwn eto ar yr un llwybr ag awdwr y "Drych," ac felly yn naturiol ac yn anocheladwy syrth i'r un agen. Ebe efe: "Pan ymneillduodd Aschenas oddiwrth ei frodyr, aeth a'i iaith gydag ef (siarada am iaith fel dodrefnyn). Gan fod y Cymry felly (Aschenas a'i deulu, tebyg) wedi cymeryd eu hiaith gyda hwy, rhaid ei bod yn iaith Noah (taid Aschenas), ac (felly yn y blaen) hyd yn iaith Adda, ac yn iaith Paradwys, oblegid ni chyfnewidiwyd arni o amser y cread." A hwn mor hyf a haeru, "Yn yr iaith Gymraeg y rhoddwyd yr addewid i'r wraig i ysigo pen y sarff." Y casgliad naturiol, felly, yw fod y Sarff yn Gymraes, neu o leiaf yn medru y Gymraeg. Sylwer eto yn mhellach y dywedir mai yn y Gymraeg y rhoddwyd yr addewid i'r wraig; felly y casgliad anocheladwy yw mai Cymro yw yr Arglwydd, neu o leiaf medrai Gymraeg y pryd hwnw. Y mae yr ymhoniaeth Farddol yn cyraedd yn mhell. Wrth gwrs, nid oes sail o gwbl i'r dychymygion hyn. Hygoeledd balchder Barddas sydd wrth wraidd yr hawliad eithafol hwn; ond wrth hawlio y fath henafiaeth i'r Cymry a'u hiaith, ychydig ganfyddant yr anfri a'r gwarth dynant ar eu penau drwy ein gwneyd ni a'n hiaith yn gyfryngau yr anffawd benaf ddygwyddodd i'r teulu dynol.