VIII.
A yr ysbryd barddol i fewn am yr oll o'r gogoniant sydd. Ebe awdwr y "Drych" mor syml wirion "Ac yma, pe dywedwn mai Cymry oedd y duwiau hyn, y rhai oedd Ewrop ac Asia yn eu haddoli yn amser eu hanwybodaeth gynt, mi wn eisoes y bydd rhai yn barod i chwerthin yn eu dwrn a dywedyd 'Nid yw hyn ddim ond ffiloreg.' Ond gan fod genyf awdurdod y gwirionedd i sefyll o'm blaen, mi a ddywedaf yn hy mai Cymry oeddynt. Nid wyf yn dweyd mai Cymry oeddynt o Gymru; nac wyf, mi wn well pethau; ond gwyr oeddynt o hiliogaeth Gomer, o'r un ach a ninau ac yn siarad yr un iaith. Y neb a dybio mai chwedlau gwneuthur yw y rhai hyn, darllened, atolwg, waith y Doctor dysgedig Pezron." Byddai hyny fel anog dyn wada ofergoeliaeth rhyw offeiriad Pabyddol i ddarllen gwaith y Pab!
IX.
A pha elw neu glod ydyw i'r Cymry hawlio henafiaeth mor aruthrol? Nid yw yn glod i'n cenedl mai Cymro oedd Adda, ac mai Cymro oedd y Diafol, yn rhith y sarff. Nid yw yn glod i'r Cymry mai eu cyndad achosodd lygriad y teulu dynol ac sydd gyfrifol am yr helynt fwyaf ddiraddiol gymerodd le erioed. Pa glod yw i'r Cymry mai drwy gamwedd Cymro a Chym-