raes y daeth barn ar bawb i gondemniad, ac mai trwy anufudd-dod Cymro a Chymraes y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid?
X.
Ond fel mae coeg athrawiaeth yn myned o ddrwg i waeth o angenrheidrwydd, yn nwylaw Myfyr Morganwg ymddirywiodd coel Barddas hyd y trodd yn wrthodiad o'r ddysgeidiaeth Feiblaidd, ar yr hon y seilid hi ar y cyntaf. Gymaint yw cyfaredd y gair a'r arwydd "Nod" i Myfyr fel y coelia efe mai gan Cain oedd y wir grefydd ac nid Abel, a thrwy linach Cain y disgynodd derwyddiaeth, sef y wir grefydd i lawr i ni, y Cymry! Y llinach wreiddiol, ebe efe, yw yr eiddo Cain. Nid yw llinach Seth ond math o efelychiad o linach Cain. Nid yw ffugachres Seth fel y'i ceir yn marddas yr Iuddewon ond llinach fabwysiedig plaid y ffug-feirdd. Y gwir yw, ebe efe eto, mai llin Seth a fuant yn mhob oes a gwlad yr eilunaddolwyr a'r aberthwyr gwaedlyd; ac mai yn llin Cain, sef llin Orseddog Menw mab y Teirgwaedd, o'r Ynys Wen, yn unig, y cadwyd adnabyddiaeth o'r Goruchaf Dduw Celi; a'i chyfrinion hi i'r dydd hwn, mewn cysylltiad a'r Cylch Gwyn-gil (Dinas noddfa Cain, neu ddinas Enoc) yw y "Gwir yn Erbyn y Byd" llygredig!