Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Adda. Dechreua Sieffry gyda Brutus a dymchweliad Caer Droia a'i llosgiad a than. Y mae anadl einioes yn ffug hanes Sieffry o'r dechreu. Chwyth awel ramantus beraidd dros ei faes o'r cychwyn. Rhamant sydd hanes yn diystyru gofynion rheswm eithr yn boddhau y darfelydd a'r dychymyg.

XVI.

Ar ol rhyfel Caer Droia, ffodd Aeneas gyda'i fab Ascenius gan hwylio ar long i'r Eidal. Ascenius a genedlodd Sylyius, yr hwn mewn ffordd anghyfreithlon a genedlodd Brutus, tad y Prydeinwyr. Proffwydwyd am dano y byddai iddo ladd ei dad a'i fam (yn ddamweiniol, wrth gwrs) a dyfod i ogoniant aruthrol. Y pryd hwnw gwisgai Brutus y teiti o "Brutus, Cadfridog Rhelyw y Troiaid." Wedi cyflawni llawer o wrhydri rhagarweiniol, daeth yn amser i Brutus feddwl am gael gwraig, yr hyn sydd yn arfer gyffredin ar hyd yr oesau. Gwarchaeid ar ddinas Sparatinum gan Pandrasus, ac ymgymerodd Brutus Cadfridog rhelyw y Troiaid a gwaredu y gwarchaeedigion, yr hyn wnaeth gan gymeryd Pandrasus yn garcharor. Gan fod y Brenin Pandrasus yn gryf a'i bobl yn lluosog, a'r perygl o aros yn eu plith neu yn agos yn fawr, cynaliwyd cynadledd i benderfynu beth fuasai oreu wneyd o dan yr amgylchiadau, a